Efallai y bydd modd codi rhai o’r cyfyngiadau yng Nghymru os bydd nifer yr achosion newydd yn parhau i ddisgyn, meddai’r Prif Weinidog heddiw (dydd Mercher 10 Mehefin).

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn ystyried llacio’r mesurau sydd ar waith ddiwedd yr wythnos nesaf, pan gaiff adolygiad pellach o’r rheoliadau ei gynnal.

Ar hyn o bryd, gall pobl o ddwy aelwyd gwrdd yn yr awyr agored, heb deithio mwy na phum milltir, a chan arsylwi ar ymbellhau cymdeithasol.

Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod naw yn rhagor wedi marw ar ôl profi’n bositif am Covid-19, gan fynd â chyfanswm nifer y marwolaethau i 1,419, tra bod cyfanswm yr achosion wedi cynyddu 38 i 14,518.

Y ‘Rhif R’

Dywedodd Mr Drakeford mewn cyfarfod llawn mai un o’r ystyriaethau allweddol o ran llacio’r cyfyngiadau fyddai’r lefel atgynhyrchu, neu’r ‘Rhif R’, a sut roedd y feirws yn cylchredeg yng Nghymru.

“Rwy’n rhannu’r gobaith […] y byddwn ni mewn sefyllfa ar ddiwedd yr wythnos nesaf i godi rhai o’r cyfyngiadau y mae’n rhaid i ni gyd lynu wrthynt ers bron i dri mis, bellach” meddai.

“[Yr] wythnos hon, mae tua 50 o achosion newydd bob dydd, ac mae’r nifer hwnnw’n dal i ddisgyn.

“Felly, mae eich siawns o gwrdd â rhywun, wrth i chi adael eich cartref eich hun, sy’n dioddef o’r coronafeirws, tua un-rhan-o-wyth o beth ydoedd [pan gyflwynwyd y cyfyngiadau].

“Byddwn yn parhau i orfod pwysleisio wrth bobl, wrth iddynt ymarfer y rhyddid [newydd], fod yn rhaid iddynt wneud hynny’n ofalus iawn.

“Oherwydd hyd yn oed os mai dim ond 50 o achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau bob dydd, nid oes gennych unrhyw ffordd o wybod, wrth i chi adael eich cartref, a ydych yn mynd i fod mewn cysylltiad ag un o’r 50 o bobl hynny.”

Ailddechrau twristiaeth?

Dywedodd Mr Drakeford wrth Aelodau’r Senedd fod Llywodraeth Cymru yn gobeithio gallu ailddechrau rhannau o’r diwydiant twristiaeth cyn diwedd y tymor eleni, ond roedd yn rhaid ei wneud gyda “chydsyniad cymunedol”.

“Os yw’n bosibl, mae dechrau gyda llety hunangynhwysol, lle nad yw pobl yn rhannu ceginau a thoiledau a chawodydd ac yn y blaen, yn ymddangos yn ffordd gall a diogel o feddwl am sut y gallwn ailddechrau gweithgarwch yn y diwydiant twristiaeth,” meddai.

“Felly, wrth i ni symud, os gallwn, i ganiatáu i dwristiaeth ailddechrau yng Nghymru, gall pobl sy’n teithio i’r cymunedau hynny fod yn siŵr y byddant yn cael croeso, ac y bydd y diwydiant unwaith eto yn dangos i bobl bopeth sydd gan Gymru i’w gynnig.”