Mae undeb athrawon UCAC wedi mynegi eu pryderon dwys ar ran ysgolion yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf y bydd ysgolion yn ailagor i bob disgybl ar Fehefin 29.

Mewn llythyr at y Llywodraeth, mae Is-ysgrifenyddion Cyffredinol yr undeb yn egluro sut mae eu blychau e-bost a’u llinellau ffôn wedi bod yn hynod o brysur gyda negeseuon o syndod a gofid gan ysgolion, penaethiaid a staff.

“Mi roedd e’n sioc, roedd e wir yn sioc i ni pan ddaeth y datganiad ddydd Mercher diwethaf” meddai Rebecca Williams, Is Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, wrth golwg360.

“Tan nawr, mae’r trafodaethau rhwng yr undebau a’r Llywodraeth wedi bod yn agored, yn onest ac yn adeiladol iawn, ac rwy’n credu roedd pawb yn hapus gyda’r cynlluniau.

“Felly daeth hwn fel mwy o sioc, a dydyn ni wir ddim yn gwybod beth sydd wedi gyrru’r penderfyniad,” meddai.

Risg

Yn eu llythyr at y llywodraeth, mae’r undeb yn egluro, o dan yr amgylchiadau presennol, fod yr ystyriaethau ymarferol a logistaidd wrth geisio rhoi’r cyfle i bob disgybl ddychwelyd i’r ysgol cyn yr haf yn “syfrdanol. ”

“Mae’r cyfrifoldeb fydd yn rhaid i ysgolion unigol ei ysgwyddo, yn benodol arweinyddion ysgolion, yn anferthol,” meddai Dilwyn Roberts-Young a Rebecca Williams mewn datganiad ar y cyd.

Mae UCAC yn credu bod y risgiau y mae’r Llywodraeth yn gofyn i weithlu’r ysgol eu cymryd yn annerbyniol o uchel.

“Mae hyd yn oed y cynllunio mwyaf gofalus a’r canllawiau manwl yn golygu y bydd staff yr ysgol yn agored i lefelau risg yr ydym ni o’r farn eu bod yn ddiangen ac yn anghyfrifol,” meddai Rebecca Williams.

“ Mae’n werth nodi, mewn llawer o ardaloedd awdurdodau lleol, y gofynnir i athrawon nodi a fyddant yn gallu dychwelyd i’r ysgol ar 29 Mehefin, heb wybod pa drefniadau a fydd ar waith i sicrhau eu diogelwch.”

Yn ôl yr undeb, mae staff sy’n gweithio yn y Cyfnod Sylfaen yn wynebu risgiau difrifol iawn gan fod pawb yn derbyn yn gyffredinol nad yw plant o’r oedran yma’n gallu ymbellhau’n gymdeithasol mewn lleoliad ysgol.

Mae eu hanghenion emosiynol a chorfforol yn gofyn am agosatrwydd corfforol gan staff, a bydd hynny’n anodd iawn – os nad yn amhosibl- atal meddai UCAC.

Egwyddorion

Ar ddechrau’r trafodaethau, roedd UCAC yn gytûn gyda’r Llywodraeth ar y 5 egwyddor oedd yn cael eu hamlinellu yn y broses o pryd a sut i ail agor ysgolion, ac roedd pawb yn gytûn y byddai mis Medi yn amser priodol i wneud hynny.

Ond gyda’r cyhoeddiad hwn, mae’r undeb yn pryderu nad yw’r Llywodraeth yn bodloni’r 5 egwyddor bellach.

  1. Diogelwch a lles meddyliol, emosiynol a chorfforol myfyrwyr a staff.

“ Mae lefel y gofid a fynegwyd gan aelodau yn yr amser byr ers y cyhoeddiad yn arwydd nad yw’r penderfyniad yn ffafriol i les meddyliol ac emosiynol y staff,” meddai UCAC.

  1. Parhau i gyfrannu at yr ymdrech a’r strategaeth genedlaethol i frwydro yn erbyn lledaeniad COVID-19

“ Mae lefel y teithio a’r cyswllt rhwng aelwydydd yn bell y tu hwnt i’r hyn a ganiateir ar hyn o bryd i’r boblogaeth gyffredinol; Nid ydym yn gwybod eto beth fydd y rheolau ar gyfer y boblogaeth gyffredinol o 29 Mehefin ymlaen, ond mae’n bosibl y bydd mwy o weithredu gan ysgolion yn wahanol iawn i’r rheolau; Ceir pryderon penodol o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gan ei bod yn ymddangos bod achosion ar gynnydd yno.”

  1. Ennyn hyder rhieni, staff a myfyrwyr – yn seiliedig ar dystiolaeth a gwybodaeth – y gallant gynllunio ar gyfer y dyfodol

“Nid yw’r  staff yn teimlo’n hyderus ynghylch y datganiad arfaethedig, ac mae’r diffyg gwybodaeth fanwl yn ei gwneud hi’n anodd iddyn nhw gynllunio.”

  1. Y gallu i flaenoriaethu dysgwyr ar adegau allweddol, gan gynnwys y rhai o gefndiroedd difreintiedig

“Mae gallu ysgolion i roi blaenoriaeth i ddysgwyr allweddol (e.e. blynyddoedd 6, 10 a 12) wedi’i beryglu’n sylweddol gan y gofyniad i gynnig dychwelyd i bob grŵp blwyddyn.”

  1. Bod yn gyson â fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud penderfyniadau, rhoi canllawiau ar waith i gefnogi mesurau megis ymbellhau, rheoli presenoldeb a chamau diogelu ehangach.

Angen Sicrwydd

“Yn sicr, mi fyddai’n well genon ni petaen nhw’n newid eu meddyliau fel maen nhw wedi ei wneud yn Lloegr,” meddai Rebecca Williams.

Ond, yn ystod y camau nesaf mae UCAC yn galw am sicrwydd ar frys gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r materion canlynol:

  • darparu PPE a chanllawiau ynghylch y defnydd ohono
  • digonolrwydd gwasanaethau a chynhyrchion glanhau
  • profi staff a disgyblion
  • bod eglurder yn cael ei ddarparu o ran disgwyliadau mewn perthynas ag ysgolion arbennig