Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi darganfod gwerth £600 o gannabis mewn eiddo yng Nghwmtwrch Isaf ger Ystradgynlais yng Nghwm Tawe.

Fe wnaeth yr heddlu chwilio tŷ yn Heol Meurig yng Nghwmtwrch Isaf ddydd Iau diwethaf (Mehefin 4).

Daethon nhw o hyd i 21 bag bach o ganabis, oedd yn pwyso 33 gram, mewn ystafell wely, tra bod dau fag arall yn cynnwys 31 gram a dau gram wedi cael eu cymryd oddi yno gan yr heddlu.

Mewn cyfweliad â’r heddlu, mae gŵr 20 oed wedi cyfaddef ei fod yn berchen ar y canabis, ac fe fydd yn mynd gerbron llys maes o law.