Mae Vaughan Gething yn dweud bod rhaid i bobol wisgo masg â thair haenen os nad oes modd cadw pellter cymdeithasol oddi wrth bobol eraill, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd yn ei gynhadledd ddyddiol heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 9) fod hyn yn dilyn diweddariad yng nghanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, a bod Llywodraeth Cymru’n “dilyn y cyngor gwyddonol.”

Pwysleisiodd nad yw gwisgo masg yn esgus i beidio ag ymbellháu’n gymdeithasol, a bod cyngor Llywodraeth Cymru ond yn annog pobol i wisgo masgiau “mewn sefyllfaoedd lle nad yw hi’n bosib ymbellháu’n gymdeithasol”.

“Yr enghraifft fwyaf amlwg yw trafnidiaeth gyhoeddus, lle mae mwy na 15% o gapasiti yn debygol o olygu nad yw cadw ddwy fetr ar wahân yn bosib,” meddai.

“Gallai masg wedi ei wneud gartref neu orchudd tair haen leihau trosglwyddiad o un person i’r llall.”

Dywed y bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ddilyn y cyngor gwyddonol a’u bod nhw’n barod i newid y canllawiau os yw’r cyngor yn newid.

“Hyderus” ynghylch cynlluniau dychwelyd i’r ysgol

Dywed Vaughan Gething ymhellach fod Llywodraeth Cymru “môr hyderus ag y gallwn ni fod” gyda’r cynlluniau i ddychwelyd i’r ysgol.

Pwysleisiodd nad oedd pethau’n mynd yn ôl i’r arfer ac y byddai llawer iawn o bethau’n wahanol wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol.

“Dyw hyn ddim yn fater o fynd yn ôl i’r arfer, bydd ysgolion yn gweithredu mewn ffordd hynod wahanol ond bydd yn help mawr i ni ddod i’r arfer a beth fydd y normal newydd,” meddai.

Dywed y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio â phobol sy’n darparu addysg, rhieni a phlant wrth symud ymlaen gyda chynlluniau i agor ysgolion eto.

Mae’n dweud ymhellach ei bod hi’n fater i wledydd eraill pa gamau maen nhw’n eu cymryd ond ei fod yn hyderus gyda’r hyn sy’n cael ei wneud yng Nghymru.

“Dwi’n meddwl y dylem fod yn hyderus ein bod yn dilyn y cyngor rydym wedi ei dderbyn gan ymgynghorwyr gwyddonol,” meddai

Black Lives Matter a chofgolofnau yng Nghymru

Yn y cyfamser, fe wnaeth Vaughan Gething gadarnhau nad yw’n disgwyl polisi penodol gan Lywodraeth Cymru ynghylch cofgolofnau pobol ddadleuol yng Nghymru.

Fodd bynnag roedd yn fodlon rhannu ei deimladau personol ar y mater.

“Fy marn bersonol yw y dylai awdurdodau lleol ddeall fod yna rannau o’r parth cyhoeddus yng Nghymru sy’n dathlu pobol ddylen nhw erioed fod wedi cael eu dathlu,” meddai.

Mae’n dweud na fyddai cael gwared ar gofgolofnau neu ailenwi sefydliadau yn datrys y broblem ehangach.

“Mae’n rhaid meddwl am bwy rydych yn ei ddathlu, y stori rydych yn ei hadrodd am orffennol eich gwlad a beth mae hynny yn ei olygu i bobol heddiw,” meddai.

“Mae hi’n bwysicach ein bod ni’n cydnabod na fydd yr ymgyrch Black Lives Matter a’r holl broblemau ehangach yn cael eu datrys drwy roi’r cofgolofnau mewn amgueddfa neu drwy roi placiau o flaen y cofgolofnau sy’n egluro’n well pwy oedd y bobol yma.

“Mae’n rhaid i ni ddatrys y problemau ehangach.”