Mae naw yn rhagor o bobol wedi marw yng Nghymru yn sgil y coronafeirws, yn ôl ffigurau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 9).

Mae’n golygu bod y cyfanswm wedi codi erbyn hyn i 1,410.

Cafodd 42 o achosion newydd eu hadrodd, gan fynd â’r cyfanswm ers dechrau’r ymlediad i 14,480.

Ond mae’r ffigurau go iawn yn debygol o fod yn sylweddol uwch yn sgil y ffordd mae achosion a marwolaethau’n cael eu cofnodi.