Mae Heddlu Dyfed-Powys yn dweud nad yw teulu yn Llangeitho yng Ngheredigion wedi torri rheolau’r coronafeirws, er gwaethaf pryderon pobol leol.
Roedd pobol leol wedi bod yn cwyno ar ôl i’r teulu symud yno ddydd Gwener (Mehefin 5), a’r gred oedd iddyn nhw ddod o Ffrainc.
Ond mewn datganiad, dywed yr heddlu eu bod nhw wedi dod i’r casgliad ar ôl siarad â nhw nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le.
Dywed yr heddlu iddyn nhw roi cyngor i’r teulu am “ymbellháu cymdeithasol”.