Mae Liz Saville Roberts wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gydweithio â Llywodraeth Cymru i warchod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Yn ystod sesiwn Cwestiynau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Liz Saville Roberts fod ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos fod nifer y bobol yn ei hetholaeth hi, Dwyfor Meirionnydd, sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a Lwfans Ceisio am Waith wedi codi 124% ers dechrau’r gwarchae.

“Mae yna batrwm yn ymddangos ar draws Cymru ac ardaloedd o’r Deyrnas Unedig sy’n dibynnu ar dwristiaeth a lletygarwch bod cynnydd mawr mewn diweithdra,” meddai yn y siambr.

“A wnewch chi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth Cymru i greu pecyn tymor hir i sicrhau dyfodol hir dymor dyfodol y sector dwristiaeth a lletygarwch yng Nghymru?”

David Davies, Aelod Seneddol Sir Fynwy

Wrth ymateb, dywed gweinidog yn Swyddfa Cymru David Davies: “Mae’n amlwg fod y gwarchae yn mynd i gael effaith ar ein heconomi ac mae’n mynd i gynyddu ffigyrau diweithdra a dyna pam mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i ddod allan o’r gwarchae yn gyflym pan mae hi’n saff i wneud hynny.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o ar draws y Deyrnas Unedig ac rydym eisiau gwneud yn sicr nad ydym yn gweld arwyddion yn codi mewn rhannau o Gymru wledig yn dweud nad oes croeso i bobl o Loegr.”