Mae undeb addysg UCAC wedi ymateb yn chwyrn i ddatganiad y Gweinidog Addysg heddiw bod ysgolion yn mynd i ailagor yn raddol i bob disgybl o 29 Mehefin.
“Mae’r undebau addysg wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda Llywodraeth Cymru ers dechrau’r argyfwng, gan gynnwys ynghylch ailagor ysgolion” meddai Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.
“Gyda’n gilydd, mae’r proffesiwn wedi llwyddo i ddarparu’n arwrol ar gyfer disgyblion Cymru yn ystod y cyfnod helbulus hwn.
“Fodd bynnag, rydym yn gresynu’n fawr at y ffaith fod y Llywodraeth wedi anwybyddu barn yr undebau mai blynyddoedd 6, 10 a 12 ddylai fod wedi cael blaenoriaeth petai unrhyw ailagor cyn yr haf.
“Mae’r ystyriaethau ymarferol sydd ynghlwm â cheisio sicrhau bod hyd yn oed nifer bychan o ddisgyblion yn dychwelyd cyn yr haf yn eithriadol o gymhleth – heb sôn am geisio sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfle i ddychwelyd.
“Mae creu amgylchedd mor ddiogel â phosib i bawb tra’n cynnal awyrgylch groesawgar a chefnogol yn her anferthol.
‘Po fwyaf o blant, mwa’r risg’
Yn ol UCAC maen nhw’n ymwybodol o’r manteision posib i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol am rywfaint cyn yr haf, ond mae’n nhw’n dweud fod yn rhaid cydbwyso’r manteision posib hynny gyda’r risgiau – i’r disgyblion eu hunain, i staff ac i gymunedau ehangach yr ysgolion.
“Yn syml iawn, po fwyaf o blant, mwya’r risg” meddai Dilwyn Roberts-Young.
“Ac o geisio rhoi sylw i bawb, mi fydd yn anoddach byth sicrhau’r sylw haeddiannol i’r disgyblion hynny sy’n flaenoriaeth yn y tymor byr, sef blynyddoedd 6, 10 a 12.
“Gwyddom y bydd lefelau uchel iawn o bryder ymhlith athrawon ac arweinwyr ysgol wrth glywed cyhoeddiad y Gweinidog heddiw.
“Byddwn yn pwysleisio pryderon ein haelodau yn ysgrifenedig ac mewn cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru yn y modd cryfaf posib.”