Mae Siôn Eirian, y dramodydd, bardd a nofelydd, wedi marw’n 66 oed yn dilyn salwch.
Cafodd ei fagu yn Hirwaun, Brynaman a’r Wyddgrug, yn fab i James a Jennie Eirian Davies. Ei frawd yw Guto Davies, sy’n swyddog y wasg gyda Chlwb Rygbi Pontypridd.
Ar ôl ennill gradd yn y Gymraeg ac Athroniaeth o Brifysgol Aberystwyth, aeth i’r Coleg Cerdd a Drama cyn dod i’r amlwg gyda’i gyfrol o farddoniaeth Plant Gadara, oedd yn ymwneud tipyn â phobol ifanc y gogledd-ddwyrain, gan gynnwys skinheads, oedd yn beth prin yn Gymraeg ar y pryd.
Erbyn hynny roedd y teulu wedi symud i’r Wyddgrug.
Yr Eisteddfod a sgriptio i’r BBC
Aeth yn ei flaen i fod yn enillydd ieuengaf erioed Coron Eisteddfod yr Urdd yn 1971, a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1978.
Rhwng 1979 a 1985, roedd yn awdur sgriptiau BBC Cymru ar raglenni sy’n cynnwys Pobol y Cwm.
Ef oedd olynydd Meic Povey yn yr Adran Golygu Sgriptiau, a hynny o dan gyfarwyddyd Gwenlyn Parry.
Ymhlith ei weithiau amlycaf ar y sgrîn fach mae Marwolaeth yr Asyn o Fflint, y gyfres dditectif Bowen a’i Bartner, a’r ffilmiau Noson yr Heliwr a Gadael Lenin.
Ymhlith ei weithiau amlycaf ar lwyfan mae Wastad ar y Tu Fas, Elvis, y Blew a Fi ac Epa yn y Parlwr Cefn.
Mae’n cael ei ystyried yn un o lenorion mwya addawol ei gyfnod ac ychydig bach o ‘enfant terrible’, yn ysgrifennu am fywydau pobol ifanc wrthryfelgar yn ôl yn y 70au.
Mi sgrifennodd nofel Bob yn y Ddinas, oedd yn rhaflaenu llawer o’r ysgrifennu dinesig sydd wedi bod ers hynny.
Dramâu amserol
Dechreuodd Siôn Eirian weithio ar ddrama wleidyddol yn 2014, Yfory, a gafodd ei llwyfannu gan gwmni Bara Caws yn 2017. Roedd y ddrama wedi ei hysgogi gan y Cynulliad a digwyddiadau gwleidyddol y cyfnod. Roedd hi yn “astudiaeth o gyfeiriad gwleidyddol Cymru,” yn ôl y diweddar ddramodydd mewn cyfweliad gyda Golwg yn 2017.
Sgrifennodd yr act olaf ar ôl i Donald Trump ennill y ras am arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau ac ar ôl iddo ddewis ei gabinet Americanaidd, er mwyn gwneud y ddrama yn gwbl amserol.
Roedd Bara Caws eisoes wedi cael llwyddiant mawr gyda drama arall ganddo, sef Garw, am gyn-löwr a chyn-focsiwr, yn 2014. Enillodd honno bedair gwobr yn y Gwobrau Theatr Cymru yn 2015.
Teyrngedau
Yn dilyn y newyddion, mae nifer wedi talu teyrnged iddo.
“Er mai ym myd y ddrama lwyfan roedd cyfraniad mwyaf Siôn, roedd hefyd yn gyfrifol am ysgrifennu’r gyfres Pen Talar i S4C ac wrth gwrs am y ffilm ryngwladol Gadael Lenin,” meddai Amanda Rees, cyfarwyddwr cynnwys S4C.
“All Cymru ddim fforddio colli ysgrifenwyr unigryw a thalentog fel Siôn. Byddwn yn gweld ei golli.”
Yn ôl Siân Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys BBC Cymru, roedd Siôn Eirian “yn llenor a sgriptiwr oedd â llais ac arddull cwbl unigryw”.
“Mi wnaeth o gyfraniad hollbwysig i adran ddrama BBC Cymru a bu’n un o hoelion wyth Pobol y Cwm am flynyddoedd lawer – roedd yn sgriptiwr naturiol a threiddgar oedd yn gwybod yn reddfol pa storiau fyddai’n apelio at y gynulleidfa. Anfonwn ein cydymdeimlad at y teulu cyfan.”
@MaesGarmon Clywais newydd drwg heddiw bod Sion Eirian di marw. Dwi’n ei gofio fel gymeriad call a hapus yn y ysgol. Enillodd y Goron yn 1978 yn Ruthin os dwi’n cofio.
Trist iawn. Meddwl yn gynes ambano.— Phil🏴 (@rhyddni) May 31, 2020
Newyddion hynod drist eto – yn ei chael yn anodd iawn dygymod ar llif o dristwch sydd yn ein taro yn dawel.Unwaith eto yr annwylaf o ddynion agos at Sion yn ein gadael – collad enfawr.Cwsg yn dawel bach Sion 🏴
— Mici Plwm (@Mici_Plwm) May 31, 2020
Newyddion trist iawn am Siôn Eirian heddiw. Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei teulu a’i ffrindiau. Un o’n Prifeirdd ieuengaf erioed, yn ddim ond 24 oed pan enillodd y Goron yn 1978. Diolch am ei gyfraniad i lenyddiaeth ac yn arbennig i fyd y ddrama yng Nghymru
— eisteddfod (@eisteddfod) May 31, 2020