Mae Eisteddfod T wedi cael “ymateb anhygoel” a safon y cystadlu wedi bod “yn syfrdanol”, yn ôl Siân Eirian, cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

Daeth yr Eisteddfod ddigidol gyntaf erioed i ben ddoe (dydd Gwener, Mai 29) ar ddiwedd wythnos o gystadlu mewn ffordd wahanol iawn i’r arfer yn sgil y coronafeirws.

Doedd dim modd cynnal yr Eisteddfod yn Ninbych yn y ffordd draddodiadol eleni yn sgil y cyfyngiadau sydd yn eu lle yn dilyn ymlediad y feirws, ond mae cystadleuwyr a gwylwyr wedi mwynhau’r arlwy drwy gydol yr wythnos ar y teledu, y radio ac ar y we.

Fe wnaeth Eisteddfod T ddenu dros 6,000 o gystadleuwyr ar gyfer mwy nag 80 o gystadlaethau.

Mae’r gynulleidfa hefyd wedi cael ymuno yn y gweithgareddau amgen, gyda mwy na 25 awr o ddarlledu byw ar S4C ac 18 awr ar Radio Cymru, gyda’r cyfryngau cymdeithasol ar waith drwy’r cyfan.

Ymhlith yr arlwy ar y cyfryngau cymdeithasol roedd ‘maes’ digidol ar Facebook a stondinau rhithwir.

‘Safon y cystadlu yn syfrdanol’

“Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel,” meddai Siân Eirian.

“Mae safon y cystadlu yn syfrdanol, ac rydyn ni mor falch o’r ymateb cadarnhaol a’r holl ganmol sydd.

“Mae’r ochr dechnegol wedi bod yn dipyn o her – dibynnu’n llwyr ar westeion yn cael eu cyfweld o bell gan gyflwynwyr mewn stiwdio dros-dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd, gan gadw at reolau pellter cymdeithasol, y beirniaid yn datgelu’r canlyniadau ar deledu byw, o’u cartrefi, ynghyd â’r holl gystadlu yn digwydd yn ddigidol.

“Mae wedi bod yn anodd, yn gymhleth, yn gofyn llawer o bawb ar a thu ôl y sgrin ac yn ddrwg i’r nerfau!

“Ond mae wedi mynd yn rhyfeddol o dda ac rydyn ni wedi ac yn parhau i gael ymateb gwych gan y gynulleidfa. Mae gwerthfawrogiad gwirioneddol gan bobl o’r ymdrech a’r ymroddiad a aeth i lwyfannu’r Eisteddfod hon.

Y cystadlu

Mae’r cystadleuwyr wedi bod yn anfon fideos o’u perfformiadau er mwyn i’r beirniaid gael dewis yr enillwyr.

Ymhlith y rhain, roedd dawnsio gwerin traddodiadol a chanu cerdd-dant ynghyd ag elfennau mwy anghonfensiynol fel deuawd gydag enwogion Cymru, cystadleuaeth lip-sync, parodi o gân gyfarwydd a sgetsus i’r teulu cyfan.

Cafodd testunau’r cystadlaethau eu cyhoeddi ddechrau’r mis, ac roedd gofyn i gystadleuwyr greu fideos o’u perfformiadau a’u llwytho i wefan yr Eisteddfod i gael eu beirniadu.

Roedd miloedd o ymdrechion, gyda nifer fawr ohonyn nhw ledled Cymru’n defnyddio dulliau cymharol newydd fel Facetime, Zoom, Teams a sawl dull arall sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod gwarchae’r coronafeirws.

‘Wythnos a hanner’

Yn ôl Amanda Rees, cyfarwyddwr cynnwys S4C, fe fu’n “wythnos a hanner”.

“Un na welwyd ei thebyg ac a fydd yn cael ei dathlu a’i chofio am flynyddoedd,” meddai.

“Ry’n ni’n falch iawn o fod wedi gallu cydweithio gyda’r Urdd ar y fenter arloesol hon oedd yn cynnig cyfle i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ddisgleirio.

“Mae Eisteddfod T wedi llwyddo i ddod a Chymru gyfan ynghyd drwy rym technoleg ac ry’n ni’n falch iawn o fod wedi gallu darlledu holl fwrlwm a hwyl y digwyddiad heriol a hwyliog hwn yn fyw ar S4C. Llongyfarchiadau mawr i bawb.”

“Ry’n ni’n hynod falch o fod yn rhan o ddigwyddiad arloesol a hanesyddol ac yn falch iawn o lwyddiant yr wythnos,” meddai Rhuanedd Richards, Golygydd BBC Radio Cymru a BBC Cymru Fyw.

Bydd rhaglen uchafbwyntiau ar S4C heno (nos Sadwrn, Mai 30) am 8 o’r gloch a BBC Radio Cymru am 2 o’r gloch y prynhawn yma (dydd Sadwrn, Mai 30).