Bydd Ysgol Farddol Caerfyrddin yn dechrau cyfres o wersi cynghanedd ar gyfer dechreuwyr trwy gyfrwng Zoom yn rhad ac am ddim.
Caiff y gwersi eu cynnal bob nos Fawrth rhwng 7:30 a 9:00 yr hwyr ar Fehefin 2, 9, 16, 23ain, 30 a Gorffennaf 7 ac 14.
Dywedodd yr athro, Geraint Roberts, ei fod yn edrych ymlaen at gynnal y gwersi.
“Mae Ysgol Farddol Caerfyrddin wedi bod yn cynnal gwersi i ddysgwyr ers 15 mlynedd yn ond wrth gwrs yn methu gwneud hynny dyddiau yma,” meddai.
“Felly eleni, penderfynwyd y byddem yn cynnal gwersi drwy gyfrwng zoom.
“Cawsom sesiwn ymarfer neithiwr, a byddwn yn cael sesiwn ymarfer nos Lun hefyd.”
Diddordeb o Lundain a Phatagonia
Dywed Geraint Roberts mai un peth da am gynnal gwersi ar Zoom ydi gallu denu dysgwyr o lefydd y tu hwn i Gaerfyrddin.
“Mae tipyn o ddiddordeb wedi bod hyd yma, gyda rhai yn cofrestru o Lundain a Phatagonia sydd yn eithaf cyffrous,” meddai.
Mae hefyd yn edrych ymlaen at ddysgu cynganeddu ar Zoom.
“Bydd yn brofiad gwahanol i ddysgu pobl rownd bwrdd gyda bwrdd gwyn,” meddai
“Dw i’n hoffi pen a bwrdd gwyn ond mae modd dysgu gyda llais hefyd, mater o addasu yw e dw i’n credu.”
Mae’n annog unrhyw un sydd â diddordeb derbyn yr e-wersi i gysylltu nai llai ar 07814701079 neu geraintroberts@btinternet.com.