Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ddamwain car difrifol ddigwyddodd ym mhentref Hirwaun, sydd yng Nghwm Cynon a rhyw chwe milltir o Ferthyr Tudful.

Digwyddodd y ddamwain am 1:55 ar bnawn dydd Iau, Mai 28, ger cyffordd cylchfan yr A465, Ffordd y Cymoedd a’r A4059, Ffordd Hirwaun.

Fe wnaeth fan Vauxhall Combo wen wrthdaro â VW Amorak tywyll.

Mae gŵr lleol 74 oed wedi dioddef anafiadau difrifol i’w ben yn sgil y ddamwain ac wedi cael ei gludo i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful.

Mae’r heddlu bellach yn gofyn i unrhyw un oedd yn dyst i’r gwrthdrawiad, neu sydd â gwybodaeth am y ddamwain, i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2000185670.