Dywedodd y Gweinidog Iechyd heddiw, Mai 27, y bydd proses olrhain cysylltiadau yn cael ei chyflwyno yng Nghymru fesul cam, a hynny o Mehefin 1 ymlaen.

Yn ôl Vaughan Gething, mae’n bosib y bydd yn rhaid i unrhyw un sydd wedi gofyn am brawf am eu bod wedi dod mewn cysylltiad ag unigolyn sydd â’r coronafirws fynd ati i hunanynysu.

“O 1 Mehefin, byddwn yn rhoi’r broses o olrhain cysylltiadau ar waith ar gyfer pobl sydd wedi cael canlyniad prawf positif” meddai’r Gweinidog Iechyd.

“O ystyried natur symptomau’r coronafeirws, bydd mwyafrif y bobl sy’n meddwl bod ganddyn nhw symptomau, ac yn cael eu profi, yn cael canlyniad negatif.

“Ar hyn o bryd, dim ond 12% o brofion sy’n arwain at ganlyniad positif.”

Fodd bynnag, wedi canlyniad positif, meddai, bydd proses olrhain yn mynd rhagddi, ac er efallai na fydd cysylltiadau yn arddangos unrhyw symptomau, bydd disgwyl iddynt hwythau hunanynysu hefyd.

Yn ogystal, pwysleisiodd Mr Gething eto fod yn  rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu ynghyd ag aelodau eraill y cartref.

Capasiti profi

Yn ôl Vaughan Gething, gellir ymgymryd â dros 9000 o brofion y dydd mewn labordai ar hyn o bryd, a disgwylir cyrraedd y nod o allu cynnal 10,000 o brofion y dydd yn y dyfodol agos.

Gall gweithwyr hanfodol a’r cyhoedd gael gafael ar becynnau profi gartref drwy borthol Llywodraeth Prydain.

Cyn bo hir bydd posib i’r cyhoedd ddefnyddio’r safleoedd profi sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan weithwyr allweddol ledled Cymru.

Yn ei ddatganiad hefyd, dywedodd Vaughan Gething y bydd yn rhoi’r broses olrhain cysylltiadau ar waith fesul cam gan ddatblygu a “dysgu wrth fynd yn eu blaen.”

Hanfodol

Mae’n cydnabod hefyd ei fod yn ymwybodol iawn o bopeth y mae pobl wedi’i aberthu yn ystod y cyfyngiadau.

“Rwy’n cydnabod y byddwn yn parhau i ofyn i bobl chwarae rhan sylweddol er mwyn rheoli lledaeniad y clefyd, drwy hunanynysu gydag aelodau eraill eu cartref pan fydd ganddyn nhw symptomau a sicrhau eu bod yn cael prawf.

“Dim ond os bydd pobl yn barod i chwarae eu rhan, ac yn parhau i ddiogelu eraill, y bydd y system hon yn gweithio.

“Mae profi yn rhan allweddol o’r ymdrech genedlaethol hon gan y bydd yn galluogi pobl sydd â symptomau, ond nad yw canlyniad eu prawf yn bositif, i roi’r gorau i hunanynysu cyn gynted â phosib.”

Dywedodd, hefyd, fod llacio’r cyfyngiadau ymhellach yn ddibynnol ar bobl yn dilyn canllawiau strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru amlinellu’r camau nesaf yn y cyfnod cloi ddydd Gwener.