Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi ailadrodd na fydd hi’n cyhoeddi dyddiad pendant ar gyfer ailagor ysgolion.
“Ni fyddaf yn pennu dyddiad mympwyol pan fydd mwy o blant yn gallu mynd yn ôl i ysgolion Cymru,” meddai.
“Ar hyn o bryd mae angen mwy o dystiolaeth am y cynnydd yn y pandemig, mae gennym fwy o hyder o ran rhywfaint o’r dystiolaeth honno ac mae angen meithrin hyder ymhlith rhanddeiliaid allweddol… ac mae arnom angen mwy o reolaeth dros y clefyd.
“Mae angen i ni hefyd weld datblygiad y drefn profi, olrhain a diogelu yn ogystal. Mae hynny’n rhan allweddol a hanfodol o alluogi plant i fynd yn ôl i’r ysgol. ”
Dim “gwarantiad 100%”
Ychwanegodd Kirsty Williams mai “iechyd a lles emosiynol staff a phlant” fyddai ar flaen ei meddwl o ran pryd y byddant yn dychwelyd i’r ysgol.
“Bydd yn rhaid i ni gydnabod ei bod yn amhosibl rhoi gwarantiad 100%,” meddai.
“[Ond] yr hyn sy’n ddyletswydd arnaf i yw ein bod yn rheoli’r risgiau hynny gymaint â phosibl ac yn creu amgylchedd sydd mor ddiogel ag y gall fod, fel y gallwn ganiatáu i fwy o blant fynd yn ôl i’r ysgol.
“Allwn ni ddim dileu pob risg ond gallwn wneud ein gorau i leihau’r risg i roi hyder.”
Y Berthynas ag Undebau’r Athrawon
Dywedodd y Gweinidog Addysg na allai roi sylwadau ar y berthynas rhwng undebau’r athrawon ac Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gavin Williamson.
Dywedodd wrth sesiwn friffio ddyddiol Llywodraeth Cymru: “Mae gennym berthynas gadarnhaol iawn gydag undebau’r gweithlu addysg yma yng Nghymru.
“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda nhw oherwydd pan fyddwn yn gwneud penderfyniad i […] ganiatáu i fwy o blant fynd yn ôl i’r ysgol, aelodau’r undebau hynny fydd yn gorfod gweithredu’r penderfyniad hwnnw ac mae angen i ni fagu hyder ymysg rhieni ond hefyd hyder ymysg y gweithlu ei bod yn ddiogel i fynd yn ôl.