Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, yn dweud bod sicrhau citiau profion coronafeirws i bawb dros bump oed yng Nghymru’n “gam mawr ymlaen”.
Fe ddaw wrth iddo gyhoeddi hefyd fod cynllun peilot ar y gweill ymhlith byrddau iechyd Cymru i olrhain cysylltiadau pobol sydd ynghlwm wrth achosion o’r feirws.
Mae system newydd ar gael ledled gwledydd Prydain drwy system archebu fel bod modd i bobol dderbyn cit yn eu cartrefi.
Yn ôl Vaughan Gething, fe fydd y citiau’n helpu’r broses o weld “ble mae’r feirws a sut mae’n lledu yng Nghymru”.
Mae llinell gymorth ddwyieithog 119 hefyd wedi’i sefydlu er mwyn i bobol archebu cit.
Problemau
Yn ystod ei gynhadledd ddyddiol, fe fu’n rhaid i Vaughan Gething ymateb i broblemau cychwynnol wrth gael mynediad i’r system archebu.
“Rydyn ni’n disgwyl lefel uchel o alw am y citiau profi cartref dros y dyddiau cyntaf,” meddai.
“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadarnhau y bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r citiau profi cartref ar gyfer gweithwyr allweddol, a byddan nhw’n gweithio er mwyn cynyddu’r capasiti ar gyfer citiau profi cartref i’r cyhoedd.”
Peilota cynllun olrhain
Yn y cyfamser, mae Vaughan Gething hefyd wedi cyhoeddi cynllun peilot ymhlith pedwar bwrdd iechyd Cymru i olrhain cysylltiadau pobol sydd ynghlwm wrth achosion o’r coronafeirws.
Fe fydd y system yn galluogi Llywodraeth Cymru i olrhain pawb sydd wedi dod i gyswllt â rhywun sydd wedi’i heintio.
Bydd y cynllun peilot yn para pythefnos ar “raddfa fach”, meddai.
“Byddan nhw’n profi’r prif agweddau, gan gynnwys rolau a hyfforddiant y gweithlu, niferoedd o gysylltiadau, cefnogaeth glinigol, caffael llif data a gwybodaeth, cynllunio sefyllfaoedd a threfniadau i gefnogi pobol sydd angen cymorth i hunanynysu.
“Bydd ail wythnos y cynllun peilot hefyd yn ein helpu ni i brofi system feddalwedd olrhain cysylltiadau Cymru gyfan, a fydd yn cefnogi byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i olrhain cysylltiadau ar raddfa fwy.”