Mae Bernard Sumner, gitarydd y bandiau Joy Division a New Order, yn cwyno am warchae’r coronafeirws a’r “ff**in Cymry” am nad yw’n gallu teithio i’w gwch yng Nghymru.

Dywedodd wrth The Times nad yw’n gallu teithio at ei gwch newydd “oherwydd mae’r ff**in Cymry yn gwrthod fy ngadael i mewn”.

Mae’r rheolau ynglŷn â’r pandemig coronafeirws yn llymach yng Nghymru nag yn Lloegr, ac yn gwahardd teithio diangen rhwng y ddwy wlad.

Dywed y gŵr 64 oed ei fod wedi cael hynny’n rhwystredig.

“Mae gen i gwch newydd sbon yn disgwyl amdana i yng Nghymru ond alla i ddim mynd yno oherwydd mae’r ff**in Cymry yn gwrthod fy ngadael i mewn,” meddai, yn ôl adroddiadau’r wasg.

“Felly yndi, mae’r gwarchae yn mynd ar fy ff**in nerfau.”

Daw hyn wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig newid y rheolau i Loegr, gan ddweud bod gan bobol yr hawl i deithio unrhyw bellter er mwyn ymarfer corff yn y gwarchae.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bobol beidio â theithio o Loegr i Gymru wedi iddyn nhw benderfynu peidio â llacio’r rheolau ar deithio.