Mae Urdd Gobaith Cymru wedi galw ar bobl ifanc ledled y byd i sicrhau nad oes  neb yn anghofio’r gwersi sydd wedi eu dysgu yn ystod yr argyfwng Covid19.

Caiff yr alwad ei chyfleu ar ffurf fideo yn Neges Heddwch ac Ewyllys Da flynyddol pobl ifanc Cymru a fydd yn cael ei lansio heddiw, (dydd Llun, Mai 18).

Yn ôl yr Urdd, mae’r argyfwng wedi tanlinellu beiau mawr bywyd modern, ac mae 55,000 o aelodau’r mudiad cenedlaethol yn galw ar arweinwyr gwledydd y G20 i arwain y ffordd wrth fynd i’r afael â’r materion hynny.

Ar ran aelodau’r mudiad, mae Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis, wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Boris Johnson; Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump; Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin a phob arweinydd G20 arall.

“Deffroad i’r byd”

Mae’r Urdd yn lansio ymgyrch fyd-eang i dynnu sylw at yr hyn maen nhw wedi’i ddysgu o argyfwng Covid19, gan ei alw’n “ddeffroad i’r byd” ac yn rhybuddio yn erbyn dychwelyd i rai o ffyrdd hunanol, dinistriol y gorffennol.

Cafodd neges wreiddiol 2020 ei newid pan ddaeth yn amlwg bod Covid19 yn rhywbeth oedd yn mynd i reoli bywydau pawb, yn hen ac ifanc, meddai’r mudiad.

Yn ogystal, gyda’r neges yn cael ei chyflwyno ar fideo roedd rhaid ail feddwl am ddulliau ffilmio’r bobol ifanc, gyda’r cyflwyniad terfynol yn glipiau gafodd eu ffilmio gan y bobol ifanc eu hunain ar draws Cymru.

Yn ol yr Urdd, mae’r ymateb byd-eang i Covid19 hefyd wedi dod ag ymdeimlad newydd o frys i ddelio hefo rhai o faterion mawr ein hoes – tlodi, anghydraddoldeb, digartrefedd, newid hinsawdd, byw’n wastraffus, teithio diangen mewn ceir a theithio awyr.

Dysgu gwersi

“Mae argyfwng Covid19 wedi bod yn her enfawr a phoenus i bob un ohonom,” meddai Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis.

“Rydym wedi gweld colli bywyd a bywoliaeth enbyd, ond mae’r ymateb byd-eang i’r bygythiad wedi bod yn drawiadol. Er bod y sefyllfa wedi gwahanu pobl yn gorfforol, mae hefyd wedi dod a phobl yn agosach.

“Mewn sawl ffordd, dangosodd yr argyfwng y gorau ynom ni, ein hymrwymiad i’n cymunedau, ein gwerthoedd cyffredin a’n dynoliaeth ac mae ein pobl ifanc yn benderfynol na fydd arweinwyr gwleidyddol yn gollwng yr ymrwymiadau hynny wrth i’r firws gilio.”

“Gwrando”

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru:

“Yn ystod yr amseroedd heriol hyn sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, mae’n galonogol gweld pobl ifanc Cymru yn rhannu neges heddwch ac ewyllys da ledled y byd. Neges eleni yw un yn dyheu i’n gweld yn dysgu gwersi o’r pandemig, i fod yn fyd mwy gofalgar, i edrych ar ôl ein cymunedau a’n planed.

“Rydym yn llwyr gefnogi’r weledigaeth hon, ac yn parhau i ymrwymo i fod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gan gymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi egwyddorion masnach deg, gwaith teg a chwarae teg. Rydyn ni’n gwrando, a byddwn yn parhau i wrando.”