Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o dri ymosodiad rhyw yn Abertawe yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd yr heddlu wybod am ymosodiadau anweddus ar dair dynes wahanol yn ardaloedd Brynmill a Heol Ystumllwynarth.

Cafodd y llanc ei ddal yn dilyn ymchwiliad gan heddlu yn yr ardal.

Mae’r llanc ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad gael ei gynnal, meddai’r heddlu.