Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am ddynes 19 oed sydd ar goll o’r Rhyl.

Mae Mared Smith yn 19 oed.

Mae hi’n 5’8” ac o gorffolaeth fawr, ac mae ganddi wallt hir brown.

Dywed yr heddlu ei bod hi, o bosib, yn gwisgo sbectol yn ogystal â chôt ledr ddu, crys-T du ac esgidiau rhedeg cuddliw.