Mae cyhoeddiad wedi dod fod Gŵyl Dyn Gwyrdd eleni wedi cael ei chanslo yn sgil y pandemig coronaferiws. Roedd hi fod i gael ei chynnal rhwng Awst 20 a 23 eleni.
Mae’r ŵyl wedi cael ei chynnal ger Crughywel ym Mannau Brycheiniog ers 2003 ac mae hi erbyn hyn yn denu oddeutu 25,000 o bobl bob blwyddyn. Bellach, y nod fydd ei chynnal rhwng Awst 19 a 22 y flwyddyn nesa’.
Ymysg yr artistiaid Cymreig oedd fod i berfformio yno eleni oedd Gruff Rhys, Boy Azooga a Melin Melyn.
“Mae’r rhain yn eiriau roedden ni’n gobeithio na fyddai byth rhaid i ni eu hysgrifennu, ond gyda thristwch mawr y cyhoeddwn na chaiff Gŵyl y Dyn Gwyrdd ei chynnal eleni oherwydd y pandemig COVID-19 sy’n parhau o hyd,” meddai datganiad gan drefnwyr yr ŵyl.
“Ein prif flaenoriaeth bob amser fydd eich diogelwch chi, yn ogystal â diogelwch yr artistiaid, y criw a’r masnachwyr sy’n rhan mor annatod o’n teulu Dyn Gwyrdd.
“Rydyn ni’n gwybod bod y misoedd sydd i ddod yn mynd i fod yn eithriadol o astrus i ni i gyd, ond gyda’n gilydd, credwn y gallwn godi o’r adeg hon yn gryfach ac â mwy o gysylltiad rhyngom nag erioed o’r blaen.”