Mae disgwyl i EastEnders ail-ddechrau ffilmio erbyn diwedd mis Mehefin, meddai un o benaethiaid y BBC.

Yn ôl Charlotte Moore, cyfarwyddwr cynnwys y BBC, fe fydd y gyfres sebon yn ail-ddechrau o fewn wythnosau, ynghyd a’r rhaglen Top Gear.

Daeth y cyhoeddiad ar ôl i’r gwaith ffilmio ar gyfresi fel Line Of Duty, Peaky Blinders a Call The Midwife ddod i ben yn sgil y pandemig  coronafeirws.

Wrth ysgrifennu yn y Telegraph dywedodd Charlotte Moore fod y BBC wedi bod yn edrych ar ffyrdd o ail-ddechrau cynhyrchu rhai o’u rhaglenni yn ddiogel a’u bod yn ystyried sut i ail-ddechrau ffilmio cyfresi a dramâu eraill y BBC.

“Wrth gwrs, fe fyddwn ni’n gweithio o fewn canllawiau’r Llywodraeth. Fe fydd nifer y criw yn cael eu cyfyngu. Fe fydd aelodau o’r cast yn gwneud eu gwallt a cholur eu hunain. Fe fydd mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn lle,” meddai.