Daethpwyd o hyd i grŵp o wersyllwyr yn torri rheolau COVID-19 yng Ngheredigion gan gi heddlu a’i hyfforddwr tra’n mynd am dro dros y penwythnos.
Sylwodd PC Mike Barnsley a’r ci heddlu, o’r enw Storm, ar y grŵp tra roeddent yn ymarfer yn ardal Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid ddydd Sul, Mai 10.
Fe gawson nhw gymorth gan swyddogion tîm ymateb, a chafwyd hyd i nifer o bobl, ynghyd â cherbydau oddi ar y ffordd, cartrefi modur a fan lwytho.
Roedd y grŵp, a oedd wedi teithio o Lerpwl, yn ymddangos fel pe bai nhw’n gwersylla er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ‘off roading’ yn yr ardal.
Roedden nhw eisoes wedi cael eu hatal gan swyddogion heddlu’r ffyrdd y noson gynt.
Parhau i amddiffyn cymunedau gwledig
“Yn amlwg doedden nhw ddim wedi gwrando ar gyngor swyddogion y noson gynt i adael yr ardal a mynd yn ôl adref,” meddai Sarjant Dave Hawksworth.
“Ac roedd yn ymddangos eu bod yn benderfynol o barhau i anwybyddu’r cyfyngiadau.
“O ganlyniad, cymerwyd camau gorfodi, gyda’r grŵp cyfan yn derbyn rhybudd cosb cyn troi yn ôl am Lerpwl.
“Gobeithio y bydd hyn yn dangos ein bod yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod ein cymunedau gwledig yn cael eu hamddiffyn, ac y byddwn yn cymryd camau gorfodi priodol pan fydd angen.”