Mae cynghorydd Plaid Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn gadael Plaid Cymru gan ymuno â phlaid Neil Mc Evoy, y ‘Welsh National Party’ neu’r ‘WNP’ (y mae ei henw dal dan ystyriaeth).

Dywed Cynghorydd Peter Read, sy’n cynrychioli ward Abererch, bod gwleidyddiaeth “clir a ffres” y ‘WNP’ wedi ei annog i droi ei gefn ar Blaid Cymru.

Dyma’r ail Gynghorydd o Wynedd i ymuno â’r blaid newydd, ar ôl i’r Cynghorydd Dylan Bullard ymuno â’r blaid ym mis Ebrill.

Ffurfiwyd y ‘WNP’ ddechrau’r flwyddyn ac mae bellach yn cynnwys saith cynghorydd mewn tri awdurdod lleol, yn ogystal ag un aelod o’r Senedd, sef Neil McEvoy wrth gwrs.

“Mae fy mhenderfyniad i ymuno â’r ‘Blaid Genedlaethol’ yn gam cadarnhaol i ysgwyd gwleidyddiaeth yng Ngwynedd a Chymru,” meddai’r Cynghorydd Read.

“Ymunais â’r [blaid hon] oherwydd bod ei wleidyddiaeth yn ffres ac yn glir. Mae gan Gymru a Gwynedd botensial enfawr.

“Nawr mae gennym ni blaid a all gynnig gwell i Gymru.”

Dywedodd Arweinydd y ‘WNP’, Neil McEvoy: “Mae momentwm go iawn yn perthyn i’r [blaid hon] yn awr.

“Mae gennym Gynghorwyr ac aelodau yn ymuno ledled y wlad a’r Cynghorydd Read yw’r diweddaraf i ymuno â’n tîm rhagorol.

“Y ‘Blaid Genedlaethol’ yw’r dewis amgen Cymreig go iawn yn awr.”