Mae rhai o ardaloedd hyfryta’r wlad ar gau i’r cyhoedd a’r parciau cenedlaethol yn rhybuddio ymwelwyr i gadw draw.

Er bod gan Saeson yr hawl i yrru i lecyn prydferth i ymarfer corff a mwynhau’r awyr iach yn Lloegr, yn dilyn cyhoeddiad am lacio’r rheolau gan y Prif Weinidog Boris Johnson nos Sul, nid dyna’r sefyllfa yng Nghymru.

Yn wahanol i Lywodraeth Prydain, mae Llywodraeth Cymru yn dal ati i fynnu y dylech ond ymarfer corff o fewn pellter cerdded i’ch cartref.