Mae’r Lolfa wedi dweud wrth Golwg360 eu bod yn “siomedig” na fyddan nhw yn gallu manteisio ar gyfnod prysur y Nadolig i werthu llyfrau Cymraeg ar Amazon.
“Fydd dim yn digwydd cyn y ‘Dolig,” meddai Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol y Lolfa wrth Golwg360.
Fis Medi, fe wnaeth y Lolfa dderbyn ymateb “ychydig yn fwy cadarnhaol” gan Amazon ynglŷn â’u cais i werthu llyfrau Cymraeg ar Kindle, ond does dim wedi dod o’r ymateb hyd yma, meddai Lefi Gruffudd.
“Roedden ni wedi gobeithio am ffordd o gael e-lyfrau lan ar Amazon a Kindle cyn y Dolig, ond dyw e’ ddim yn edrych fel bod hynny yn mynd i ddigwydd,” meddai.
‘Ar ei hôl hi’
“Dw i’n teimlo’n siomedig na fydden ni’n gallu manteisio ar farchnad e-lyfrau Amazon dros y Dolig,” meddai.
Dywedodd y byddai strategaeth y Cyngor Llyfrau yn “rhoi modd o gael arian” i’r Lolfa at gynhyrchu’r e-lyfrau .“Dydy e ddim werth e’n ariannol i ni dalu i gynhyrchu nhw heb fod ni’n cael cymhorthdal ato mewn ffordd. Does dim byd ar gael nes bod hwn yn cael ei orffen.
“Ma’ fe’n sefyllfa anffodus. Rydan ni’n ofni bydd pobl yn mynd i’r arfer o brynu e-lyfrau Saesneg heb brynu rhai Cymraeg – neu ddim yn gwybod bod rhai Cymraeg ar gael. Ma’ fe bach o ofid i ni yn sicr,” meddai. “Os ti ar ei hôl hi, ti am gael dy weld ar ei hôl hi. Ar hyn o bryd, ni mewn tipyn o limbo – a fedrwn ni ddim manteisio’n llawn dros y Dolig.”
Er hyn, bydd pobl yn gallu prynu e-lyfrau oddi ar wefan y Lolfa dros y Nadolig, meddai Lefi Gruffudd.
‘Cychwyn taith’
Fe ddywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru wrth Golwg360 fod y Cyngor Llyfrau “yn bwrw ymlaen hefo’r gwaith o ddatblygu maes e-gyhoeddi ac yn rhoi sylw i elfennau gwahanol o’r gwaith ar hyn o bryd”.
“Mae Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi comisiynu mewn cydweithrediad ag adran ddylunio’r Cyngor i baratoi canllawiau cyhoeddi a fydd yn gynhorthwy ymarferol i’r cyhoeddwyr.
“Mae’r Cyngor hefyd yn awyddus i sicrhau bod siopau llyfrau yn ogystal â gwefan Gwales yn abl i werthu e-lyfrau maes o law ac mae’r gwaith datblygu technegol ar waith ar hyn o bryd.
“Cychwyn yn unig y mae’r daith hon ac mae cyfnod o ddatblygu ac arbrofi o’n blaen er mwyn sicrhau bod llyfrau o Gymru yn manteisio’n llawn ar dechnoleg sydd yn datblygu’n ddyddiol bron.”