Roedd diwrnod VE ag arwyddocâd arbennig i gynghorydd o Lanrwst wrth iddo osod torch ar gofeb ryfel y dref y bore yma.
Ymhlith yr enwau ar y gofeb mae Edgar Parry, a gafodd ei ladd yn Caen yn Ffrainc ym Medi 1944 – bythefnos cyn genedigaeth ei fab o’r un enw.
Yn filwr 28 oed o’r dref, roedd wedi profi erchyllterau Dunkirk a glaniadau Normandi cyn iddo gael ei ladd ychydig fisoedd cyn diwedd y rhyfel.
Bob blwyddyn mae Edgar Parry y mab wedi chwarae rhan flaenllaw yng ngwasanaethau Sul y Cofio yn y dref a heb golli’r un gwasanaeth ers pan oedd yn saith oed.
“Rhaid inni beidio anghofio am bobol fel fy nhad a hogiau eraill o’r dref a gafodd eu colli fel hyn,” meddai wrth osod y dorch ar ran Cyngor Tref Llanrwst wedi’r dau funud o dawelwch y bore yma.
Mae defodau tebyg wedi cael eu cynnal ledled Prydain i nodi diwrnod VE, gyda thorfeydd wedi eu gwahardd rhag ymgynnull.