Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw dyn a fu farw ar ôl iddo gael ei drywanu mewn siop ym Mhen-y-graig, sef John Rees, gŵr 88 oed o Drealaw yn Nhonypandy

Mae menyw 29 oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth yn parhau i fod yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu Merthyr Tudful.

Mewn datganiad a ryddhawyd gan yr heddlu, dywedodd ei deulu: “John oedd y diffiniad o ddyn da, roedd yn uchel iawn ei barch ac yn boblogaidd yn y gymuned.

“Roedd yn falch o’i deulu, yn falch o fod yn Gymro ac yn ymroddgar i Eglwys yr Holl Seintiau’n lleol. Byddwn i gyd yn ei golli yn ofnadwy. ”

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Mark O’Shea, sy’n arwain yr ymchwiliad: “Mae hwn yn ddigwyddiad trasig iawn ac rydym yn parhau i ymchwilio i’r amgylchiadau sy’n gysylltiedig â’r mater.

“Rydym yn cydymdeimlo â theulu Mr Rees yn ystod y cyfnod gofidus hwn, ac maent yn cael cymorth gan swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.

“Yn naturiol, mae’r digwyddiad hwn wedi achosi sioc yn y gymuned leol ac rwyf am sicrhau’r trigolion bod ymchwiliad llawn ar y gweill.”

Mae Heddlu De Cymru yn annog unrhyw dystion nad ydynt eto wedi dod ymlaen i gysylltu â hwy, yn ogystal ag unrhyw un sydd â lluniau o’r digwyddiad ar ffonau symudol.