Mae Llywodraeth Cymru – a’r anturiaethwr Bear Grylls – yn annog pobol i aros gartref dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Mae gofyn i bobol yng Nghymru weithredu’n gyfrifol ac osgoi teithio diangen hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru wedi codi cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, wedi cyhoeddi llythyr agored yn galw ar bobol i aros gartref.

Mae’r llythyr hefyd yn dweud yn glir nad yw teithio i ail gartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol fel rheol, ac y bydd unrhyw un sy’n gadael y cartref maen nhw’n byw ynddo neu’n aros i ffwrdd o’r cartref maen nhw’n byw ynddo, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.

“Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny.

“Tan hynny, gofynnwn ichi aros gartref i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau,” meddai’r llythyr wedyn.”

Hefyd yn cefnogi’r llythyr mae’r Cynghorydd Andrew Morgan (arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru), Dafydd Llywelyn (Cadeirydd Grŵp Plismona Cymru Gyfan a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys) a Carl Foulkes (Cadeirydd Grŵp Prif Swyddogion Cymru).

Angen parchu’r cyfyngiadau

“Mae Cymru yn wlad hardd a chroesawgar, ond fel y gweinyddiaethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiadau i atal pobol rhag teithio os nad yw’n angenrheidiol yn ystod cyfnod yr argyfwng cenedlaethol hwn,” meddai’r llythyr.

“Rydyn ni wedi cyfyngu ar fynediad i’n parciau cenedlaethol hefyd, gan gynnwys gosod cyfyngiadau ar feysydd carafanau, gwersylloedd, gwestai, llety gwely a brecwast a llety gwyliau.

“Ar hyn o bryd, dim ond mewn ymateb i gais gan Lywodraeth Cymru neu awdurdod lleol y gall y busnesau hynny agor.

“Rydyn ni wedi rhoi’r camau hyn ar waith i ddiogelu iechyd ac i ddiogelu ein Gwasanaeth Iechyd, drwy gyfyngu ar ymlediad COVID-19 yn ein cymunedau yng Nghymru.

“Mae’r rhan helaeth o’r boblogaeth yn parchu’r cyfyngiadau hynny ac yn gwneud ymdrechion sylweddol i gydymffurfio â nhw.

“Rydyn ni’n gofyn i bawb barhau i barchu’r mesurau hynny.

“Yn benodol, gofynnwn i’r sawl sy’n berchen ar ail gartrefi yng Nghymru i ymddwyn yn gyfrifol ac i osgoi teithio i’r cartrefi hynny hyd nes i’r cyfyngiadau hynny gael eu llacio.

“Mae Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn glir drwy gydol cyfnod yr argyfwng nad yw teithio i ail gartref yn cael ei ystyried yn angenrheidiol fel rheol.

“Yn wir, mae unrhyw un sy’n gadael y cartref y maen nhw’n byw ynddo, neu’n aros i ffwrdd o’r cartref y maen nhw’n byw ynddo, heb esgus rhesymol, yn cyflawni trosedd.

“Yn fwyaf penodol, maen nhw hefyd yn rhoi eu hunain a’r cymunedau y maen nhw’n teithio iddynt mewn perygl. Maen nhw’n rhoi pwysau y gellir eu hosgoi ar yr heddlu ac ar ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys rhoi galwadau ychwanegol ar gadwyni cyflenwi.”

Bear Grylls

Un arall sydd yn gofyn i bobl gadw draw o Gymru am y tro yw’r anturiaethwr Bear Grylls.

Mewn neges sydd yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan bobl fel yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts, mae’n dweud y bydd yn “gwarchod” y llefydd mae’n ei garu wrth edrych ymlaen i ddod yn ôl pan fydd yr amser yn iawn.

“Mae rhai o fy hoff lefydd yng Nghymru ger Abersoch ac mi fyddan nhw i gyd yno o hyd pan fydd hyn wedi mynd heibio,” meddai.

“Ond mae angen i ni roi edrych ar ôl ein gilydd cyn popeth arall am ychydig bach eto.

“Oherwydd aros gartref yw’r union beth iawn i’w wneud.”