Mae adroddiad newydd gan Asthma UK yn dangos mai dim ond 39% o bobol ag asthma yng Nghymru sy’n cael mynediad i ofal asthma sylfaenol.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y rheiny o gartrefi incwm isel ddwywaith yn fwy

tebygol o ddioddef symptomau asthma cynyddol ac yn fwy tueddol o ddioddef pyliau o asthma na’r rhai o gefndiroedd mwy cefnog.

O ganlyniad, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn galw am adnewyddu’r ffocws ar iechyd yr ysgyfaint a mwy o fuddsoddiad er mwyn rhoi hwb i’r gwasanaethau gofal sydd ar gael er mwyn cefnogi’r rhai gyda asthma a chyflyrau anadlu eraill.

Ymrwymo i wneud mwy

“Gydag un o bob 10 yn byw gydag asthma, a dim ond 39% yn derbyn mynediad i ofal ar ei gyfer, mae’n amlwg bod angen i ni wella’n gêm,” meddai Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae angen i ni ddiweddaru’r Cynllun cyflawni ar gyfer iechyd anadlol, sydd wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i gyflawni’r cynnydd dros y ddwy flynedd diwethaf.

“Mae angen hefyd i ni dargedu mwy o adnoddau sydd yn delio gyda’r anghydraddoldebau iechyd sydd yn bodoli.

“Mae’n gwbl annerbyniol fod faint o arian rydych chi’n ei ennill a ble rydych chi’n byw yn cael effaith uniongyrchol ar ddifrifoldeb eich asthma.

“Dylai pob plaid chwarae eu rhan nhw wrth sicrhau bod pobol yn derbyn y gofal asthma sydd eu hangen arnyn nhw.

“Rwy’n gobeithio heddiw, o bob diwrnod, y gallwn ni sylweddoli ac ymrwymo i wneud mwy.”