Mae Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad Arfon, yn honni nad oes buddsoddiad digonol yn system llif ocsigen Ysbyty Gwynedd, a bod angen gwaith brys arno o ganlyniad.
Mae’r ysbyty’n un o chwe ysbyty yng ngwledydd Prydain sy’n gorfod cael ei uwchraddio.
Yn ôl Siân Gwenllian mae diffyg buddsoddiad yn yr isadeiledd ocsigen yn golygu fod Ysbyty Gwynedd wedi bod yn cael ei israddio ac yn colli gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.
“Ers rhai wythnosau, dwi wedi bod yn ymwybodol bod problem wedi codi efo capasiti llif yr ocsigen yn Ysbyty Gwynedd, ac mi allai hynny, yn ei dro, gyfyngu ar allu’r ysbyty i ymdopi â’r argyfwng Covid,” meddai.
Dywed ei bod hi’n “ddiolchgar am ymdrechion” y British Oxygen Company am eu gwaith wrth geisio datrys y llif ocsigen.
Sesiwn holi
Mewn sesiwn rithwir o’r Senedd, gofynnodd Siân Gwenllian i’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething a oedd e’n cytuno y dylid fod wedi buddsoddi yn y gwaith yma ers tro, a’i bod wedi cymryd argyfwng i’r llywodraeth weithredu.
“Ac a ydych chi’n cytuno bod hyn yn arwydd clir bod Ysbyty Gwynedd, Bangor yn cael ei israddio yn dawel fach a thrwy’r drws cefn?” meddai wedyn.
“O ran buddsoddi yn y gwaith hwnnw dros gyfnod o amser, wel, wrth inni ddysgu gwersi, nid ar ddiwedd hyn yn unig ond drwy hyn i gyd, wrth gwrs bydd cwestiynau i’w gofyn am yr hyn a wnaethom ni ond yn bwysicach na hynny, yr hyn y dewiswn ei wneud yn y dyfodol i baratoi, nid dim ond ar gyfer pandemig posibl yn y dyfodol, ond mewn gwirionedd ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn fusnes fel arfer a faint o gydnerthedd sydd ei hangen arnom,” meddai Vaughan Gething wrth ymateb.
“O ran eich pwynt olaf ynghylch a yw hyn yn golygu bod Ysbyty Gwynedd yn cael ei israddio, nid wyf yn cytuno â chi.
“Does dim cynllun cyfrinachol i israddio Ysbyty Gwynedd ac i wneud hynny’n gyfrinachol ac yn dawel drwy’r drws cefn, felly rwy’n hapus i dawelu eich meddwl nad yw hyn yn gynllun gennyf i nac ychwaith gan unrhyw un arall.”