Mae cyffuriau dosbarth A a B wedi’u canfod mewn eiddo yn Nhregaron, yn ôl yr heddlu.

Roedd Heddlu Dyfed Powys wedi cyflwyno gwarant Deddf Camddefnydd Cyffuriau mewn tŷ ar ystâd Maesamlwg yn Nhregaron, Ceredigion.

Aethon nhw i’r cyfeiriad nos Sadwrn (Mai 2) ac yn ystod y cyrch, cafwyd hyd i gyffuriau Dosbarth A a B, yn ogystal â swm sylweddol o arian.

Mae’r heddlu bellach yn cynnal ymchwiliad i gyflenwi cyffuriau.

“Roedd gweithredu’r warant yn bosib oherwydd gwybodaeth a roddwyd i ni gan aelodau o’r cyhoedd,” meddai PC Samuel Garside.

“Roedden nhw’n poeni am y defnydd cynyddol o gyffuriau yn eu hardal.

“Gallaf sicrhau’r cyhoedd y byddwn yn ymateb yn gadarn lle bynnag y bo’n bosib er mwyn mynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau, ac yn gweithredu ar sail gwybodaeth gan aelodau’r cyhoedd gan fynd ar batrolau cyson, a chyflwyno gwarant pe bai angen.”

Gall unrhyw wybodaeth gael ei gyflwyno i’r heddlu drwy alw 101, neu yn ddienw drwy CrimeStoppers drwy alw 0800 555 111.