Mae Vaughan Gething yn dweud y bydd gofyn i bobol yng Nghymru “wneud mwy” yn sgil y pandemig coronafeirws sydd ar “raddfa na welwyd o’r blaen”.

Daw sylwadau’r Gweinidog Iechyd yn ystod ei gynhadledd i’r wasg, wrth iddo amlinellu camau nesaf Llywodraeth Cymru yn y frwydr yn erbyn y feirws.

“Bydd angen i ni ofyn hyd yn oed yn fwy gennych chi os yw’r cynllun hwn am lwyddo,” meddai.

“Bydd llwyddiant y cyfnod nesaf hwn yn ddibynnol ar hyder y cyhoedd a dealltwriaeth o’n cynigion, yn ogystal â phobol yn cadw at y rheolau.

“Er enghraifft, mae’n bosib y bydd rhaid i bobol fod mewn cwarantîn am 14 o ddiwrnodau.

“Ac i’n cadw ni’n ddiogel, efallai bydd rhaid i ni wneud hyn yn fwy aml.

“Rydyn ni’n gwybod nad yw hynny’n hawdd.”

Cynllun

Yn ôl Vaughan Gething, mae cynllun y llywodraeth i ymateb i’r ymlediad yn cynnwys tri cham.

Y tri cham yw olrhain cyswllt, goruchwylio, a samplo a phrofi.

Fel rhan o olrhain cyswllt, bydd angen adnabod pobol sydd wedi dod i gysylltiad â phobol sydd wedi’u heintio neu sydd wedi’u hamau o fod wedi’u heintio.

“Rydyn ni eisoes wedi defnyddio olrhain cysylltiadau yn ystod cyfnod cynnar yr afiechyd er mwyn ceisio atal yr ymlediad, ond bydd rhaid i ni weithredu ar raddfa sylweddol uwch,” meddai.

Er mwyn i’r cynllun lwyddo, mae’n dweud y bydd angen timau mawr o staff olrhain fydd wedi’u cydlynu’n rhanbarthol, a bydd angen y dechnoleg briodol i’w cefnogi.

Bydd dulliau goruchwylio’n canolbwyntio ar ysbytai, cartrefi gofal a’r gymuned, meddai, gan bwysleisio y bydd y data’n cael ei gyhoeddi er mwyn mesur cynnydd.

Mae’n dweud hefyd fod samplo’n rhan “allweddol” o’r broses, a bod y llywodraeth yn bwriadu agor rhagor o ganolfannau profi gyrru heibio, faniau profi symudol a chitiau profi cartref.