Mae disgwyl i 21,000 yn rhagor o bobol yng Nghymru dderbyn llythyrau yn gofyn iddyn nhw ynysu eu hunain rhag y coronafeirws.

Fe ddaw ar ôl i’r meini prawf ar gyfer hunanynysu gael eu diwygio yn unol â gwledydd eraill Prydain.

Mae gan y rhan fwyaf o’r 21,000 gyflyrau iechyd eraill sy’n eu rhoi nhw mewn categori risg uchel o gael eu heintio.

Fe fydd gofyn i bobol ar ddialysis ynysu eu hunain hefyd, ond mae Llywodraeth Cymru’n rhybuddio y gallai rhagor eto gael eu hychwanegu at y rhestr yr wythnos hon.

Mae Llywodraeth Cymru’n pwysleisio eu bod nhw’n adolygu’r rhestr yn gyson, a’i bod yn bwysig iddyn nhw gael darlun cyflawn o’r sefyllfa gan fod gofyn i bobol beidio â mynd allan am 12 wythnos.

Ar hyn o bryd, mae’r cyfnod 12 wythnos yn dod i ben ar Fehefin 15, ond bydd cyngor pellach ar gael cyn hynny, a bydd meddygon teulu’n cael gwybod am unrhyw gleifion eraill ddylai fod yn ynysu, ynghyd â chynghorau lleol a siopau lle gall pobol ar y rhestr gael blaenoriaeth fel cwsmeriaid.