Mae pryder am swyddi yng Nghymru yn dilyn cyhoeddiad GE Aviation y gallai swyddi gael eu torri.
Mae gan y cwmni ganolfan cynnal a chadw a thrwsio yn Nantgarw, ac maen nhw’n bwriadu torri swyddi o amgylch y byd.
Mae lle i gredu bod y cwmni’n ymgynghori â’i staff yn Nantgarw, gan gynnwys y rhai sydd eisoes ar gennad, ynghylch diswyddiadau gwirfoddol.
Mae oddeutu 1,400 o weithwyr ar y safle, allan o ryw 52,000 o weithwyr ledled y byd.
Ymateb
Yn ôl Russell George, llefarydd busnes ac economi’r Ceidwadwyr Cymreig, mae’r newyddion yn destun pryder yn ystod cyfnod ansicr y coronafeirws.
“Mae hyn yn sicr yn mynd i fod yn newyddion gofidus i weithwyr y cyfleuster MRO yn ne Cymru, yn ystod yr hyn sydd eisoes yn gyfnod ansicr iawn, ac mae’n dilyn cyhoeddiadau tebyg yn ddiweddar gan gwmnïau awyrennau sy’n gweithredu yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r diwydiant awyrennau – yn gwmnïau awyrennau a’r rhai sydd ynghlwm wrth weithgynhyrchu neu gynnal a chadw awyrennau neu injanau – wedi gweld gostyngiad mawr mewn galw, ac mae’r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn dangos pa mor anodd yw effaith fyd-eang y pandemig coronafeirws ar draws yr holl ddiwydiannau, hyd yn oed rhai sy’n allweddol yn strategol megis MRO GE yng Nghymru.”