Yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru heddiw dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod Cymru “heibio’r brig”, ond mae Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion, wedi rhybuddio nad ydy’r gorllewin hyd yn oed wedi cyrraedd y brig eto, ac wedi galw am beidio â chodi’r cyfyngiadau yn rhy gynnar.
Ceredigion yw’r sir sydd wedi gweld y nifer lleiaf o achosion o’r firws yng Nghymru.
Mewn cyfweliad â Bro360, dywedodd Ellen ap Gwynn a oedd yn ateb cwestiynau gan drigolion Ceredigion am ymateb y sir i’r coronafeirws fod yn “rhaid i ni fod yn ofalus.”
“Mae’n bwysig pwysleisio ein bod ni yn y gorllewin hyd yma heb gyrraedd brig y don, ac mi allai’r brig ein cyrraedd ymhen y bythefnos nesaf.
“Y neges ydy, peidiwch â chodi’r cyfyngiadau yma ar hyn o bryd, dydyn ni yma ddim yn barod eto.”
Ychwanegodd Arweinydd y Sir ei bod wedi cael gwybod gan Lywodraeth Cymru na fyddai newidiadau i’r cyfyngiadau yn digwydd cyn penwythnos gŵyl y banc.
Er hyn prif ffocws Llywodraeth Cymru wythnos yma yn ôl Mark Drakeford yw adolygu’r cyfyngiadau, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio a Llywodraeth San Steffan a’r llywodraethau datganoledig i adolygu’r cyfyngiadau bob tair wythnos.
Ffigurau’r de orllewin
Ceredigion yw’r sir sydd wedi gweld y nifer lleiaf o achosion o’r firws yng Nghymru gyda 37 o achosion.
Mae 503 o achosion wedi eu cofnodi yn Sir Gaerfyrddin, a 226 o achosion wedi eu cofnodi yn Sir Benfro.
Mae 766 o achosion wedi eu cofnodi gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda, gyda 42 o bobol wedi marw o’r firws.
Ffigurau Cenedlaethol
Mae 14 yn rhagor o bobol wedi marw yn sgil y coronafeirws yng Nghymru, yn ôl ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw (dydd Llun, Mai 4).