Mae arweinydd cyngor Rhondda Cynon Tâf yn dweud bod achosion o ddifrodi ceir nyrsys yr ardal yn “warthus”.

Daw ei sylwadau yn dilyn adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol am sawl digwyddiad yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar.

Roedd y ceir wedi’u parcio yn yr ysbyty dros nos wrth i nyrsys weithio yno.

Mae’r digwyddiadau wedi cael eu hadrodd wrth yr heddlu.

“Gwarthus – fandaleiddio ceir mewn ysbyty!!” meddai Andrew Morgan ar Twitter.

“@swpolice all hyn gael ei godi gan swyddogion lleol er mwyn cynyddu patrôl yn Ysbyty Cwm Cynon yn Aberpennar.”

Mae golwg360 wedi cysylltu ag Andrew Morgan am sylwadau pellach.