Mae claf wedi cael ei dderbyn i Ysbyty Calon y Ddraig yn Stadiwm y Principality am y tro cyntaf.

Ysbyty Calon y Ddraig yw’r ysbyty dros dro mwyaf yng Nghymru a’r ail fwyaf ym Mhrydain, ac mae’n darparu hyd at 2,000 o wlâu ychwanegol i gleifion Covid-19.

Ddoe, Ebrill 28, cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd ar Twitter eu bod wedi derbyn eu claf cyntaf yn y stadiwm, a gafodd ei gludo yno gan Ambiwlans Sant Ioan.

Rhannodd Ambiwlans Sant Ioan y stori ar Twitter hefyd, gan ddweud:

“ Rydyn ni wedi bod yn cefnogi cymunedau yng Nghymru ers dros 100 mlynedd a heddiw rydyn ni’n nodi moment allweddol yn ein hanes wrth i ni weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd i gefnogi’r rhai sydd ein hangen ni yn Ysbyty Calon y Ddraig.”

Fe fydd yr Ysbyty dros dro, a agorwyd yn swyddogol ddydd Llun, Ebrill 20, yn gofalu am gleifion sydd yn dod i ddiwedd eu triniaeth am Covid-19 ac angen cyfnod o adferiad a chefnogaeth, neu gofal liniarol.