Mae Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, wedi cyhoeddi bod tri busnes gweithgynhyrchu yng Nghymru wedi dechrau creu sgrybs ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Mae’r rhain yn cynnwys Red Dragon Flagmakers yng Nghlydach, sy’n arbenigo mewn creu baneri ar gyfer ffilmiau, a dwy wniadwraig annibynnol – Tesni Owen o Abertawe a Bethan Jones o Gaerfyrddin.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y busnesau’n cynhyrchu 1,000 o sgrybs yr wythnos.
Sgrybs yw’r dillad glanweithiol a wisgir gan lawfeddygon, nyrsys, meddygon a gweithwyr eraill sy’n ymwneud â gofal cleifion mewn ysbytai.
Mae’r cwmni sy’n cynhyrchu sgrybs ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Alexandria, yn dibynnu ar farchnadoedd dramor ar gyfer deunyddiau a chynhyrchu.
A chyda’r Dwyrain Pell a’r Isgyfandir yn cau gweithrediadau cynhyrchu yn rhannol o ganlyniad i’r coronafeirws roedd gofidion na fyddai Alexandria yn gallu cynhyrchu digon o gyflenwad.
Dywed “Mae ateb cwmnïau yng Nghymru i alwad y Prif Weinidog am gymorth i wneud cyfarpar diogelu personol wedi bod yn wych,” meddai Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.
“O ganlyniad, ar hyn o bryd rydyn ni’n annibynnol o ran gwneud sgrybs yng Nghymru am y tro cyntaf, a bydd ymdrechion y tri busnes hyn yn atgyfnerthu’r annibyniaeth honno ymhellach.”
Dywed Bethan Jones o Bethan Jones Boutique: “Fel perchennog bwticau yn ne Cymru, mae’n fraint i mi a fy nhîm o staff medrus weithio ar y cyd â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn yr adeg anodd hon.”