Mae Aelod Seneddol Ceredigion Ben Lake wedi cyflwyno cynnig cynnar yn y dydd, neu early day motion, yn San Steffan i ganmol Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru am eu hymateb i’r pandemig coronaferiws.
Mae cynigion o’r fath yn cael eu defnyddio i amlygu barn aelodau seneddol neu i dynnu sylw’r Senedd at ddigwyddiadau neu ymgyrchoedd penodol yn lleol.
Dywed fod Clybiau Ffermwyr Ifanc ar hyd a lled y wlad wedi bod yn cefnogi eu cymunedau yn ystod y pandemig.
Daw’r gefnogaeth yma drwy ddosbarthu bwyd, casglu presgripsiwn, mynd a chŵn am dro, yn ogystal â chadw cysylltiad â phobol fregus, meddai.
“Rwy’n falch iawn i gynnig dadl ar ddyddiad cynnar yn y Senedd yn cydnabod y gwaith gwych mae aelodau Ffermwyr Ifanc wedi ei wneud mewn cymunedau gwledig yn ystod y pandemig,” meddai Ben Lake
“Mae Ben wastad yn gefnogol o’r sefydliad ac rwyf yn falch ei fod yn cefnogi ein haelioni i’r cymunedau unwaith eto,” meddai Lauren Jones, sy’n aelod o glwb Llanwenog.
Canmoliaeth i wirfoddolwyr yng Ngheredigion
Mae Ben Lake hefyd wedi cynnig dadl i gymeradwyo cannoedd o wirfoddolwyr a’u gwaith yng Ngheredigion yn ystod y pandemig.
Mae’r rhain yn cynnwys athrawon ysgolion uwchradd Ceredigion sydd wedi cynhyrchu mwy na 2,800 o feisors mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws.
Bu pob un o adrannau Dylunio a Thechnoleg ysgolion uwchradd y sir yn rhan o’r broses o greu’r feisors, sef: Ysgol Henry Richard, Ysgol Penglais, Ysgol Penweddig, Ysgol Uwchradd Aberaeron, Ysgol Bro Pedr, Ysgol Uwchradd Aberteifi ac Ysgol Bro Teifi.
Bu hefyd yn talu teyrnged i staff ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd wedi bod yn cynhyrchu a darparu cyfarpar diogelu i gyfleusterau gofal iechyd lleol.
“Mae’n wir ein bod ni’n gweld y gorau mewn pobol mewn cyfnod o argyfwng, a dyw trigolion Ceredigion ddim yn eithriad,” meddai Ben Lake.
“Dwi mewn parchedig ofn o ymrwymiad y gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n ddiflino i helpu pobol i oroesi anawsterau a sialensiau hunan ynysu.”