Mae BMA Cymru yn dweud nad yw’r cymorth fydd yn cael ei roi gan Lywodraeth Cymru i’r rhai sy’n colli anwyliaid yn sgil y coronafeirws yn mynd yn ddigon pell.

Daeth cadarnhad gan y Llywodraeth y byddai taliadau unigol o £60,000 ar gael, ac mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi bod yn amlinellu’r cynllun yn ei gynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 28).

Fel rhan o’r cynllun, bydd teuluoedd unrhyw weithiwr iechyd sy’n marw wrth eu gwaith yn derbyn y tâl unigol o gronfa fydd yn cael ei sefydlu.

Bydd yn bennaf ar gyfer gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol.

Ymateb BMA Cymru

Ond mae BMA Cymru’n dweud bod gweithwyr iechyd “wedi cael eu gadael i lawr” ar ôl i Lywodraeth Cymru wrthod rhoi “cymorth a buddiannau llawn” i deuluoedd sy’n cael eu heffeithio.

Yn ôl Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymru y BMA, mae’r mudiad wedi’i “siomi” yn sgil y cyhoeddiad heddiw.

“Rydym wedi siomi fod ein galwadau ar i deuluoedd meddygon yn gweithio ar y rheng flaen dderbyn buddiannau llawn marwolaeth wrth wasanaethu yn ystod y pandemig yma wedi cael eu gwrthod gan Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Mae’r bobol broffesiynol hyn ym maes gofal iechyd yn gweithio mewn amgylchiadau llawn straen bob dydd i warchod ein hanwyliaid, ond maen nhw wedi cael eu hatal rhag derbyn darpariaethau ar gyfer eu hanwyliaid eu hunain pe baen nhw’n talu’r pris eithaf am eu gwasanaeth.

“Tra gallai’r taliad sengl yma ymddangos yn swm sylweddol, dyw e ddim yn dod yn agos i fod yn iawndal i deuluoedd am incwm oes eu hanwyliaid pe na baen nhw wedi marw’n ddisymwth wrth frwydro’r argyfwng yma yn y rheng flaen.

“Rydym yn parhau i ofyn i feddygon a phobol broffesiynol eraill ym maes gofal iechyd i beryglu eu hunain yn ystod yr hyn sy’n debygol o fod yn un o’r adegau mwyaf anodd yn eu gyrfaoedd.

“Rydym yn gofyn cymaint ohonyn nhw, ond maen nhw’n cael eu hatal rhag cael tawelwch meddwl i’w teuluoedd.

“Rydym yn siomedig dros ben nad yw Llywodraeth Cymru wedi dilyn arweiniad yr Alban wrth sicrhau bod y rhai sy’n dibynnu ar y rheiny sy’n peryglu eu hunain ar y rheng flaen, ar gais Llywodraeth Cymru, â’r hawl i fuddiannau llawn marwolaeth wrth wasanaethu cynllun pensiwn y Gwasanaeth Iechyd, fel maen nhw’n ei haeddu.”