Mae Stephen Kinnock, aelod seneddol Llafur Aberafan, yn rhybuddio y gallai’r coronafeirws gostio £500m i gwmni dur Tata Steel.

Mae’n galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau cymorth ariannol i’r gweithfeydd ym Mhort Talbot.

Mae’r cwmni’n cyflogi 8,000 o bobol, gan gynnwys 4,000 o bobol ym Mhort Talbot.

Fe ddaw’r alwad yn dilyn adroddiadau bod y cwmni wedi troi at lywodraethau Cymru a Phrydain yn y gobaith o dderbyn pecyn gwerth £500m ar ôl i nifer o gwsmeriaid y cwmni roi’r gorau i gynhyrchu yn ystod ymlediad y feirws.

Mae lle i gredu bod adrannau Llywodraeth Prydain yn ystyried y cais.

Mae Llywodraeth Prydain eisoes yn cynnig cynllun benthyciadau i fusnesau mawr yng ngwledydd Prydain sydd â throsiant o hyd at £45m.

Gall busnesau ofyn am fenthyciad o hyd at £50m fel rhan o’r cynllun, ond mae Stephen Kinnock am weld y swm yn cynyddu er mwyn diogelu dyfodol Tata.

‘Geiriau cynnes’ – ond angen gweithredu

“Ers argyfwng dur y Deyrnas Unedig yn 2016, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnig digon o eiriau cynnes am gefnogi’r diwydiant dur,” meddai Stephen Kinnock.

“Nawr yw’r amser i weinidogion weithredu o’r diwedd er mwyn gweithredu yn ogystal â chynnig geiriau.”

Daw ei sylwadau ar ôl iddo holi Dominic Raab yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ganol yr wythnos.

Wrth ymateb, dywedodd Dominic Raab fod y Canghellor Rishi Sunak yn “edrych yn ofalus” ar y diwydiant dur.

Ymateb yr wrthblaid ac yng Nghymru

Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn ymateb i’r sefyllfa.

“Mae dur yn sector hanfodol i’r Deyrnas Unedig o ran y swyddi mae’n eu darparu a’i rôl mewn gweithgynhyrchu domestig yng ngwledydd Prydain,” meddai Lucy Powell, llefarydd busnes a chwsmeriaid Llafur.

“Mae dur sydd wedi’i gynhyrchu yn y Deyrnas Unedig yn hanfodol i sicrhau bod ein heconomi yn adfer yn gyflym ac i wneud ein gweithgynhyrchu domestig yn fwy gwydn yn y dyfodol.

“Mae’n iawn fod y Llywodraeth yn cydweithio â’r diwydiant i warchod cyflogaeth, sef yr hyn sy’n rhoi bywyd i gymunedau, tra’n sicrhau bod trethdalwyr yn cael gwerth eu harian.”

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain, maen nhw’n cynnig pecyn cymorth “pellgyrhaeddiol” er mwyn cefnogi busnesau yn ystod ymlediad y coronafeirws, ac yn “parhau i drafod â busnesau ar hyd a lled pob sector”.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r diwydiant i Gymru.

“Mae Tata Steel yn hanfodol i economi Cymru, ac yn cyflogi miloedd o bobol ledled Cymru ac mae eu goroesiad yn cael effaith uniongyrchol ar fusnesau eraill yng Nghymru sy’n dibynnu arnyn nhw,” meddai Russell George, y llefarydd busnes, economi ac isadeiledd.

“Os oes posibilrwydd o gefnogi Tata ar hyn o bryd, gobeithio y byddai’r ddwy lywodraeth yn darganfod ffordd o’u cefnogi nhw.”

Ac yn ôl Suzy Davies, yr Aelod Cynulliad rhanbarthol, byddai colli Tata Steel yn “ergyd” i’r economi.

“Mae Tata Steel yn un o hoelion wyth ein cymunedau ni, a dw i wir yn credu y dylen ni wneud popeth allwn ni i’w cefnogi nhw drwy’r pandemig,” meddai.