Fe fydd gwasanaethau galar yn derbyn £72,000 gan Lywodraeth Cymru wrth iddyn nhw ymdopi â’r galw cynyddol yn sgil y coronafeirws.

Cruse Bereavement Care Cymru fydd yn derbyn yr arian er mwyn ymateb i’r galw anochel dros y misoedd i ddod, wrth i nifer y bobol sy’n marw o’r feirws barhau i gynyddu.

Y tu hwnt i’r feirws, mae’r gwasanaethau’n disgwyl ymateb gwahanol i’r arfer wrth i bobol alaru yn ystod cyfnod o gyfyngiadau llym, sy’n cynnwys gostwng nifer y bobol sy’n cael mynd i angladdau.

Wrth dderbyn yr arian, bydd modd i’r gwasanaeth recriwtio a hyfforddi rhagor o wirfoddolwyr a chynnig rhagor o hyfforddiant i’r gwirfoddolwyr sy’n cynnig gwasanaethau ar hyn o bryd.

Bydd hefyd modd iddyn nhw gynnig sesiynau ar-lein.

‘Hanfodol’

“Mae’n hanfodol fod gennym y lefel briodol o gymorth yn ei le, ar yr adeg iawn i helpu pobol ledled Cymru alaru ar ôl colli anwyliaid,” meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Heb y gefnogaeth hon, rydym yn wynebu’r risg o gynnydd yng nghymhlethdod y cymorth sydd ei angen, ac nid yn unig y bydd hyn yn cael effaith ar les meddyliol yr unigolyn, ond fe fydd hefyd yn rhoi pwysau ar y galw am ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes wedi’u hymestyn.

Yn ôl Janette Bourne, cyfarwyddwr Cruse Bereavement Care Cymru, mae’r gwasanaeth yn ddiolchgar am y cymorth.

“Rydym yn ymroddedig wrth sicrhau bod yr holl bobol yng Nghymru sy’n galaru’n gallu parhau i gal mynediad i gefnogaeth, boed trwy ein llinell gymorth genedlaethol – 0808 808 1677 – neu drwy sesiynau ffôn sy’n parhau trwy ganghennau lleol.

“Unwaith mae’r cyfyngiadau’n cael eu llacio, bydd yr arian yma hefyd yn ein cefnogi ni i adfer ein sesiynau wyneb-yn-wyneb a grwpiau sy’n cael eu cyflwyno gan ein gwirfoddolwyr galar gwerthfawr sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel.”