Mae angen ymchwilio i effaith y coronafeirws ar bobol dduon yn dal ledled Cymru, yn ôl undeb Unsain.
Daw’r alwad wedi i Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, ddweud bod lle i gredu bod lleiafrifoedd ethnig yn “wynebu mwy o risg” a bod angen ymchwilio i hynny.
Mae yntau wedi dweud y bydd tîm o Lywodraeth Cymru yn gweithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i “gasglu data a sefydlu os oes yna risgiau amlwg neu ffactorau y gellir eu hosgoi.”
Ledled y Deyrnas Unedig, roedd y deg doctor cyntaf a fu farw o’r haint yn dod o gefndiroedd lleiafrifol.
Ar hyn o bryd, dyw Iechyd Cyhoeddus Cymru ddim yn cyhoeddi ffigurau covid-19 dan gategori hil.
“Neilltuol o galed”
“Mae ergyd y pandemig wedi bod yn neilltuol o galed i’r gymuned ddu,” meddai Kebba Manneh, Cadeirydd Pwyllgor Aelodau Du Cenedlaethol Unsain, a gweithiwr iechyd gyda Bwrdd Aneurin Bevan.
“Mae’n anodd peidio sylwi ar y nifer uchel o weithwyr du yn y Gwasanaeth Iechyd, mewn cartrefi gofal a llefydd eraill, sydd wedi marw.
“Mae’n bwysig bod gwleidyddion yn cydnabod bod llawer o swyddi gwasanaeth cyhoeddus … ddim wedi’u gwerthfawrogi’n iawn gan gymdeithas, ac mai pobol dduon yw llawer o’r staff yma (mwy na ddylai fod o ystyried maint y grŵp yn ganran o’r boblogaeth).”