Mae Tarian.Cymru, yr ymgyrch i godi arian i brynu offer diogelwch i weithwyr iechyd a gofal, wedi anfon eu cyflenwad cyntaf, sydd bellach yn cael eu defnyddio mewn ysbytai.

Cafodd 600 o feisors eu hanfon i Sir Benfro’r wythnos hon, a chawson nhw eu dosbarthu ymysg ysbytai a meddygfeydd ar draws y canolbarth a’r de.

Roedd yr offer ar gael i staff mewn ardaloedd yng Ngheredigion, Sir Gâr a Chaerdydd a bydd ardaloedd eraill yn derbyn offer gan Tarian Cymru yn y dyddiau nesaf.

Mae’r mudiad hefyd wedi llwyddo i sicrhau tair archeb o fenyg i staff, yn ogystal ag archebion pellach o 700 o feisors a fydd ar gael i’w dosbarthu’n syth.

“Mae mwy o archebion ar eu ffordd,” meddai un o wirfoddolwyr Tarian Cymru, Iestyn ap Dafydd.

“Mae mwy o fenyg i ddod, ac ry’n ni wedi archebu mygydau a llwyth enfawr o ynau meddygol. Mae galw uchel amdanyn nhw ar hyn o bryd, ac mae straeon ar y newyddion bob nos am y prinder mawr yn yr offer yma.”

Mae ymgyrch Tarian Cymru yn galw am gyfraniadau gan bobl a mudiadau o bob cwr o Gymru drwy’r wefan tarian.cymru.

Mae’r mudiad hefyd yn galw ar weithwyr iechyd i gysylltu drwy’r ffurflen sydd ar eu gwefan er mwyn rhoi gwybod pa fath o offer yn benodol sydd ei angen arnynt.

“Mae angen i ni weithredu ar frys fel bod modd prynu’r offer am bris rhesymol,” meddai Iestyn ap Dafydd.

“Dyn ni ddim eisiau i’r gweithwyr fod heb yr offer am ddim hirach. Er mwyn sicrhau ein bod ni’n medru parhau gyda’r gwaith o ddiogelu pobl ac achub bywydau, ry’n ni’n apelio am gyfraniadau cyn gynted ag sy’n bosib.”

Ocsiwn

Mae Tarian Cymru wedi trefnu ocsiwn ar-lein mwyn codi arian a bydd cynigion eu derbyn yn ystod yr wythnos.

Mae 14 o eitemau megis gwaith celf, penwythnos mewn carafán, a cherddi wedi eu comisiynu a thocynnau i gyngherddau ar werth.

Mae modd gweld yr eitemau sydd ar werth ar dudalen Facebook, Twitter ac Instagram Tarian Cymru, a gall pobl anfon cynigion at post@tarian.cymru.