Bydd y cwmni ceir Aston Martin yn ailagor eu ffatri yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg ar Fai 5.
Mae’r cwmni’n dweud y byddan nhw’n dilyn canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn gwarchod eu gweithlu.
Caeodd y ffactori ar Fawrth 25 yn sgil y pandemig coronafeirws.
Mae’r cwmni hefyd wedi cyhoeddi bod eu tîm rheolwyr wedi cytuno i gymryd gostyngiad cyflog, gyda chyflog y prif weithredwr Andy Palmer yn gostwng 35%.
Bydd cyfarwyddwyr y cwmni hefyd yn cymryd gostyngiad cyflog o 35% tra mae’r is-lywyddion yn wynebu gostyngiad o 20%.
Mae’r cwmni yn cyflogi 300 o bobl yn Sain Tathan ac mae’r mwyafrif o’i gweithwyr ar furlough.
Dyw cyflog y staff cynhyrchiant ddim wedi newid, ond bydd y sawl sydd ar furlough o Fai 1 yn derbyn 80% o’u cyflog o hynny ymlaen.
Daeth y pandemig ar ôl blwyddyn wael i Aston Martin, a wnaeth golledion o £104.3 miliwn yn 2019.