Mae Heddlu Gogledd Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn ymchwilio i dân yn y Clwb Criced yng Nghaernarfon.

Maen nhw’n credu bod y tân wedi cael ei gynnau’n fwriadol.

“Achoswyd difrod sylweddol ar ôl i’r tân gael ei gynnau’n fwriadol am oddeutu 7.30yh ar nos Iau 19 Mawrth ar y mat criced,” meddai PC Laurin Mckie yng Ngorsaf Heddlu Caernarfon

“Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un a oedd yn yr ardal oddeutu’r amser hwnnw ac a welodd unrhyw beth neu gerbydau amheus.”

“Parhau mae ein nod o leihau troseddau ac i ymchwilio’n llym i’r rhai hynny sy’n digwydd. Fodd bynnag, rhaid pwysleisio ein bod angen cymorth gan ein cymunedau lleol i leihau digwyddiadau fel hyn ac adnabod y rhai hynny sy’n gyfrifol.”

Dywed y dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y tân gysylltu gyda PC Laurin Mckie ar https://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support gan ddyfynnu cyfeirnod 20000172850.