Mae’r ymchwiliad annibynnol i’r penderfyniad i ddiswyddo Carl Sargeant o Lywodraeth Cymru wedi cael ei ddirwyn i ben.

Bydd Llywodraeth Cymru’n talu costau cyfreithiol teulu’r cyn-Aelod Cynulliad yn dilyn y cwest i’w farwolaeth.

Cafodd ei ddiswyddo ym mis Tachwedd 2017 yn sgil honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at nifer o fenywod.

Fe gymerodd ei fywyd ei hun rai diwrnodau’n ddiweddarach.

Croesawu’r penderfyniad

Mae penderfyniad Mark Drakeford, y prif weinidog, i ddirwyn yr ymchwiliad i ben wedi cael ei groesawu gan deulu Carl Sargeant.

Maen nhw’n dweud bod rhaid “tynnu llinell” o dan y sefyllfa er mwyn cael galaru’n iawn.

Cafodd yr ymchwiliad ei gyhoeddi gan Carwyn Jones, y cyn-brif weinidog ac fe gafodd Paul Bowen ei benodi i’w arwain.

Ond fe ddaeth y cyfan i ben ar ôl i’r teulu fynd â’u hachos i’r Uchel Lys am nad oedden nhw’n fodlon ar fformat y gwrandawiad.

Daeth yr Uchel Lys i’r casgliad nad oedd gan Carwyn Jones yr hawl i wneud rhai o’r penderfyniadau oedd wedi cael eu gwneud.

Ac fe ddaeth y cwest i farwolaeth Carl Sargeant i’r casgliad fod angen mwy o gymorth ar weinidogion ar ôl iddyn nhw golli eu swyddi.

Wrth dalu teyrnged iddo, dywed Mark Drakeford y dylid cofio am Carl Sargeant fel “gŵr, tad, cydweithiwr a ffrind annwyl”.