Gallai’r tymheredd gyrraedd 23 gradd selsiws yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Bydd hynny’n golygu tymheredd yn agos i’r hyn sydd yn Lanzarote a Corfu ar hyn o bryd.

 

Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan yr wythnos boethaf yn Ebrill yng ngwledydd Prydain ers 2011.

 

Daw’r rhagolygon wrth i wledydd Prydain barhau dan warchae (lockdown) yn sgil y coronafeirws.

Tymheredd yng ngweddill gwledydd Prydain

Bydd y tymheredd yn Lloegr yn 23 gradd selsiws ar ei uchaf yn Lloegr, 18 gradd selsiws yn yr Alban ac 19 gradd selsiws yng Ngogledd Iwerddon.

Ac mae hynny’n sylweddol uwch na’r tymheredd cyfartalog o 12 gradd selsiws ar gyfer y mis. 

Y tymheredd uchaf yng ngwledydd Prydain hyd yn hyn eleni oedd 26 gradd selsiws yng Nghernyw ar Ebrill 10.