Mae ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru wedi datblygu prawf diagnostig cyflym newydd ar gyfer y coronafeirws.

Mae’r prawf yn defnyddio gwahanol ddull a chemegau i’r profion presennol, gan osgoi unrhyw oedi yn y broses o gyflenwi’r cydrannau.

O dan arweiniad Dr Jeroen Nieuwland a Dr Emma Hayhurst, mae ymchwilwyr Prifysgol De Cymru wedi addasu’r dechneg maen nhw wedi bod yn ei datblygu ers 2016 ar gyfer gwneud diagnosis o heintiau.

Mae’r prawf newydd yn cael ei werthuso ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Dros yr wythnos ddiwethaf, gofynnwyd i nifer o aelodau staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a ddywedodd fod ganddyn nhw symptomau, i ddarparu dau swab – un ar gyfer prawf achrededig Iechyd Cyhoeddus Cymru ac un ar gyfer y prawf newydd.

Dywed Prifysgol De Cymru fod y canlyniadau cychwynnol yn awgrymu “cydberthynas gref rhwng y profion.”

Y penwythnos hwn, bydd y tîm yn mynd yn eu blaen i “optimeiddio” eu prawf i’w ddefnyddio yn y pwynt gofal.

Mae’r tîm eisoes wedi datblygu dyfais brototeip sy’n costio llai na £100 i’w chreu.

Golygai hyn y gallai pecyn profi a dadansoddi symudol fforddiadwy fod ar gael yn fuan, gyda chanlyniadau ar gael o fewn 20 neu 30 munud.

“Cydweithio”

“Rydyn ni wedi bod yn datblygu ein platfform profi diagnostig ers ychydig flynyddoedd, felly rydyn ni’n gwybod ei fod yn gweithio’n dda ar gyfer heintiau eraill fel heintiau’r llwybr wrinol (UTIs),” meddai Dr Jeroen Nieuwland.

“Mae’n wirioneddol braf gallu cefnogi ein gweithwyr iechyd rheng flaen, i helpu i ganfod a oes ganddynt y firws, ac felly naill ai atal lledaeniad pellach neu eu galluogi i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym.”

Dywed yr Athro Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Argyfwng Covid Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg: “Mae hon yn enghraifft wych o gydweithio gydag un o’n partneriaid academaidd i helpu i ddatblygu dull newydd o brofi am Covid-19.”