Mae’r Ceidwadwyr Cymreig am weld disgyblion difreintiedig yng Nghymru’n derbyn yr un gefnogaeth dechnolegol â disgyblion Lloegr.

Daw sylwadau Suzy Davies, llefarydd addysg y blaid, yn dilyn cyhoeddiad y bydd disgyblion yn Lloegr yn derbyn teclynnau 4G i’w defnyddio gartref tra bod ysgolion ynghau yn sgil y coronafeirws.

Ac mae academi’n cael ei sefydlu yn Lloegr i gynnig 180 o wersi ar-lein i ddisgyblion bob wythnos.

“Dw i’n croesawu pecyn cymorth newydd ac arloesol Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig a’r rhai sy’n gadael gofal yn Lloegr sydd heb y rhyngrwyd yn derbyn mynediad gyda theclyn 4G, yn ogystal â chael eu neilltuo o gostau data wrth gael mynediad i adnoddau addysgol,” meddai Suzy Davies.

“Bydd y pecyn hwn yn galluogi’r plant hynny, a fyddai wedi methu gwneud fel arall, i gael mynediad i ddeunydd hanfodol ar-lein a fydd yn eu galluogi nhw i barhau i ddatblygu wrth ddysgu o adref.

“Bydd y cynllun hefyd yn rhoi cliniaduron a thabledi i’r disgyblion.

“Does dim rhaid dweud pa mor bwysig yw addysg dda, a dyna pam fy mod i’n galw ar Lywodraeth Cymru i gael sgwrs â darparwyr telegyfathrebu i sicrhau’r un peth i ddisgyblion yng Nghymru.

“Mae’r pandemig yma wedi achosi problemau mawr i’n pobol ifanc, felly mae’n hanfodol nad ydyn ni’n eu gadael nhw i lawr.”